Am gyfnod, roedd hen Gymraeg ganol oesol hanesydd o Sir y Fflint yn well na’i Gymraeg modern.

Mae Dr Ben Guy yn arbenigo ar hen achau Cymru, ac mae’r tad ar fin dechrau swydd newydd ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Cafodd Ben, sy’n 32 oed, ei fagu ym mhentref Pen-y-ffordd ger Bwcle wedi i’r teulu symud yno o Loegr.