Gallai plant a phobol ifanc yn Lloegr sydd o deuluoedd Cymraeg dderbyn addysg Gymraeg ym Mhowys, fel rhan o gytundeb rhwng cynghorau y ddwy ochr i’r ffin.
Yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir Powys ddoe (dydd Mawrth, Medi 19), aeth cynghorwyr ati i gymeradwyo Partneriaeth Strategol y Mers.
Bydd memorandwm o ddealltwriaeth rhwng Powys, Sir Fynwy, Sir Henffordd a Sir Amwythig yn cael ei gytuno ym mis Tachwedd.
Byddai’r awdurdodau’n cydweithio ar nifer o feysydd, gan gynnwys trafnidiaeth, sgiliau, tai, ynni, newid hinsawdd a chysylltedd digidol.
‘Ehangu addysg Gymraeg’
“Mae nifer o deuluoedd yng Nghroesoswallt a’r cyffiniau sydd â threftadaeth Gymraeg,” meddai’r Cynghorydd Pete Roberts o’r Democratiaid Rhyddfrydol, a’r deilydd portffolio addysg.
“Mae gan Groesoswallt yr unig Gylch Meithrin y tu allan i Gymru.
“Felly gobeithio mai un o’r cyfleoedd ddaw yn sgil hyn yw’r cyfle i gydweithio â’n cydweithwyr yn Sir Amwythig ac ar hyd y ffin i ehangu’r gallu i’r teuluoedd hynny i gymryd rhan mewn addysg Gymraeg a defnyddio’r bartneriaeth hon i symud yn ein blaenau gyda’r cynlluniau i hwyluso cefnogaeth drawsffiniol i’r teuluoedd hynny fyddai’n dymuno manteisio ar gael addysg Gymraeg lawn.”
Eglurodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, arweinydd y Cyngor, fod y cytundeb ar gyfer y bartneriaeth yn waddol o’r weinyddiaeth Annibynnol/Ceidwadol flaenorol.
“Daeth o ymrwymiad maniffesto’r Blaid Geidwadol yn etholiad cyffredinol 2019 y bydden nhw’n cyflwyno Cytundeb Twf y Mers i gyfateb i’r Cytundebau Dinesig mewn llefydd eraill, a’n Cytundeb Twf Canolbarth Cymru ni ein hunain,” meddai.
“Dydy Cytundeb Twf y Mers ddim wedi gweld golau ddydd, a dw i’n amau yn yr amgylchiadau (economaidd) hyn ei fod yn annhebygol iawn o ddigwydd.
“Serch hynny, cafodd y bartneriaeth ei ffurfio yn barod at hynny, ac mae wedi cael ei symud yn ei flaen.
“Dw i’n hapus iawn o fod ynghlwm, dw i’n meddwl ei fod yn syniad arbennig o dda, mae’n gwneud synnwyr hollol oherwydd y llu o gysylltiadau sydd gennym dros y ffin.”
Dywed ei fod yn byw mewn tŷ ar y ffin sy’n edrych dros Sir Henffordd, ac felly mae’n “deall yn llwyr y cysylltiadau hyn”.
Partneriaeth â Cheredigion yn “fwystfil hollol wahanol”
Dywed y Cynghorydd James Gibson-Watt fod Cyngor Wrecsam i’r gogledd o Bowys, Telford a Wrekin – awdurdod sy’n rhan o’r Sir Amwythig hanesyddol – hefyd yn “cymryd diddordeb” yn y gwaith sy’n cael ei wneud.
“Dydy hyn ddim yn ail-greu’r Bartneriaeth Canolbarth Cymru sydd gennym ni â Cheredigion mewn unrhyw ffordd – mae honno’n fwystfil hollol wahanol,” meddai.
Eglurodd Nigel Brinn, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a’r Economi, y byddai Powys yn gofalu am ffrydiau gwaith “iechyd, tai a sgiliau” fel rhan o’r trefniant.
‘Mwy na stynt PR’
Mae Elwyn Vaughan, cynghorydd Plaid Cymru ym Mhowys, wedi rhoi croeso gofalus i’r cyhoeddiad.
“Gobeithio bod hyn yn fwy nag ymgais PR yn unig,” meddai ar X (Twitter).
“Bu rhai ohonom yn galw am hyn ers blynyddoedd, ond heb weld unrhyw weithredu hyd yma.”
Mae hefyd yn gofyn a fydd addysg Gymraeg “yn nhre Llanidloes a sawl man arall”.