Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd i helpu ysgolion i fynd i’r afael â fêpio ymhlith pobol ifanc.

Mae’r canllawiau’n nodi manylion ynghylch y defnydd o e-sigaréts, a’r camau y gall ysgolion eu cymryd.

Yn ôl ffigurau’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, mae 20% o bobol ifanc oed ysgol hyd at Flwyddyn 11 yn dweud eu bod nhw wedi defnyddio e-sigarét, ac mae 5% o ddisgyblion yn ei ddefnyddio o leiaf unwaith yr wythnos.

Mae iechyd a lles yn rhan orfodol o Gwricwlwm newydd Cymru, ac mae ysgolion yn cael eu hannog i addysgu disgyblion am e-sigaréts fel rhan o’u haddysg ehangach ar ddefnyddio sylweddau.

Mae’r canllawiau hefyd yn cynnwys cyngor i ysgolion ehangu eu polisïau ar ysmygu ac ymddygiad i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn defnyddio e-sigaréts.

Caiff ysgolion eu hannog i ddatblygu’r rhain gyda dysgwyr, staff a chymuned ehangach eu hysgol.

‘Problem go iawn’

“Ni ddylai unrhyw un o dan 18 oed fod yn defnyddio e-sigaréts,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog Addysg Cymru.

“Mae ysgolion yn dweud wrthym bod hyn yn broblem go iawn, boed hynny oherwydd pwysau gan gyfoedion, marchnata lliwgar wedi’i anelu at blant neu ddiffyg dealltwriaeth o’r risgiau posibl i iechyd.

“Rwy’n gobeithio y bydd y canllawiau newydd hyn yn helpu disgyblion i ddeall effaith defnyddio e-sigaréts fel y gallant wneud y penderfyniadau cywir.

“Mae ein cwricwlwm newydd yn rhoi’r hyblygrwydd i athrawon addasu eu gwersi yn ôl y problemau a’r heriau sy’n wynebu eu disgyblion. Dylai hyn gynnwys dysgu am effeithiau defnyddio e-sigaréts ar iechyd a lles.

“Mae pob ysgol uwchradd bellach yn addysgu’r cwricwlwm hwn i flynyddoedd 7 ac 8, a bydd yr adnodd hwn yn cefnogi’r holl ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd.”

‘Cefnogi pobol i gael plentyndod di-fwg’

“Ni ddylai dyfeisiau fêpio fod yn nwylo plant a phobol ifanc, ac mae cefnogi pobol i gael plentyndod di-fwg yn flaenoriaeth,” meddai Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.

“Mae rhoi’r adnoddau i’n pobol ifanc y mae eu hangen arnynt i gadw’n iach yn ffordd bwysig y gallwn eu helpu i wella eu hiechyd a’u lles.

“Bydd y canllawiau hyn yn helpu ysgolion i dynnu sylw at beryglon iechyd defnyddio e-sigaréts a chefnogi pobol ifanc a allai fod yn gaeth ac sy’n dymuno rhoi’r gorau iddynt.”

‘Heriau newydd sylweddol’

“Mae ein gwaith gyda’r grŵp amlasiantaeth ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau wedi tynnu sylw at heriau newydd sylweddol y mae ein lleoliadau addysg yn eu hwynebu wrth ymateb i’r defnydd o e-sigaréts ymhlith pobol ifanc yng Nghymru,” meddai Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Rydym yn gobeithio y bydd y canllawiau cynhwysfawr hyn yn gam cyntaf o ran cefnogi staff addysg i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol hon.”