Mae pleidlais yn yr Undeb Ewropeaidd ar roi statws swyddogol i’r Gatalaneg, Basgeg a Galiseg wedi cael ei gohirio.
Ar ôl i’r rhan fwyaf o wledydd sy’n aelodau fynegi pryderon yn ystod cyfarfod o weinidogion ddoe (dydd Mawrth, Medi 19), penderfynodd Sbaen beidio â chyflwyno’r cynnig ar gyfer pleidlais.
Er mwyn esgor ar newid, mae’n rhaid cael sêl bendith y 27 gwlad sy’n aelodau.
Roedd y drafodaeth yn un “adeiladol”, serch hynny, er iddi bara 40 munud yn unig, gyda rhyw ugain o wledydd yn siarad ac yn gofyn am ddadansoddiad cyfreithiol ac ariannol o’r cynnig.
Mae Sbaen eisoes wedi cytuno i ariannu’r cynllun, sydd wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd i wledydd fel yr Almaen, yr Iseldiroedd ac Awstria, oedd eisoes wedi mynegi amheuon.
Byddan nhw’n trafod y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cyn y cyfarfod, dywedodd y gweinidog dros dro José Manuel Albares nad yw’r ieithoedd dan sylw’n ieithoedd lleiafrifol a bod angen statws swyddogol arnyn nhw.
Mae plaid Ciudadanos wedi cyhuddo Llywodraeth Sbaen o gael eu “blacmelio” ynghylch y sefyllfa.
Mae Llywodraeth Catalwnia yn beio Llywodraeth Sbaen am ohirio’r bleidlais, gan eu cyhuddo nhw o “beidio â gwneud eu gwaith mewn da bryd”.
Siarad Catalaneg yn y Gyngres
Yn y cyfamser, mae’r Gatalaneg wedi cael ei siarad yng Nghyngres Sbaen, y tŷ isaf, am y tro cyntaf.
Daeth y geiriau hynny o enau Gabriel Rufián, llefarydd Esquerra, wrth iddo ddweud yn ystod y Cyfarfod Llawn y byddai’n “siarad yn y Gatalaneg am fy mod i’n gallu, diolch i’r system addysg Gatalaneg, ac am mai hi yw iaith fy ngwlad”.
Siaradodd yn gyfangwbl yn y Gatalaneg, gan ddathlu’r cytundeb “hanesyddol” a beirniadu’r rhai sydd wedi troi siarad yr ieithodd cyd-swyddogol yn y Gyngres “yn weithred chwyldroadol”.
Dywedodd ei bod hi’n “fraint” cael siarad yr iaith o’r podiwm, ac yntau’n crybwyll ei wreiddiau teuluol yn Andalusia.
Am y tro cyntaf, mae ieithoedd lleiafrifedig Sbaen – Catalaneg, Basgeg a Galiseg – yn gallu cael eu siarad yn y siambr, gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei gynnig.
Ond cyn ei araith yn y Gatalaneg, siaradodd rhywun arall, yr aelod seneddol sosialaidd José Ramón Besteiro, yn yr iaith Galiseg a Sbaeneg mewn araith ddwyieithog wrth gyflwyno’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
Cafodd Basgeg ei siarad wedyn gan Mertxe Aizpurua, llefarydd ar ran plaid EH Bildu, ac wedyn gan Joseba Andoni Agirretxea, dirprwy PNB.
Cyfieithu ar y pryd
Cafodd system cyfieithu ar y pryd ei defnyddio ar gyfer y cyfarfod, ac roedd chwe chyfieithydd wrthi, gyda sgriniau’n cynnig is-deitlau hefyd.
Mae lle i gredu mai cost y gwasanaeth cyfan fydd 7,600 Ewro, yn ogystal â chostau cynnal a chadw’r cyfarpar priodol sy’n derbyn signal (45,900 Ewro).
Mae’n fwriad gan y Gyngres i brynu eu cyfarpar eu hunain yn y dyfodol.
Mae’r deuddeg cyfieithydd sy’n gweithio ar draws y gweinyddiaethau’n hunangyflogedig, ac yn ennill rhwng 80 a 100 Ewro yr awr.
Maen nhw’n gweithio o bell fel arfer, allai olygu ar adegau bod oedi o ryw bedair eiliad wrth gyfieithu ar y pryd.
Cam “cyfansoddiadol”
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Sbaen, mae’r ieithoedd lleiafrifedig yn gallu cael eu siarad yn y Gyngres bellach fel rhan o benderfyniad “cyfansoddiadol”, ac mae’n dweud bod Llywodraeth Sbaen wedi bod yn gefnogol i’r syniad erioed.
Dywed ei fod yn “newyddion da” fod yna “gydymffurfio â’r Cyfansoddiad ym mhob tiriogaeth” a bod “cyd-fodoli wedi cael ei adfer”.
Ond mae’n ymddangos nad pawb oedd yn fodlon.
Wrth i’r araith gyntaf yn y Galiseg ddechrau, cododd cynrychiolwyr o blaid Vox ar eu traed a gadael y siambr, gan adael eu clustffonau ar seddi Pedro Sánchez, prif weinidog dros dro Sbaen.