Mae hi’n “sgandal” bod Rishi Sunak yn ystyried gwanhau polisïau sero net, yn ôl gwleidyddion yng Nghymru.
Gallai cynlluniau Prif Weinidog y Deyrnas Unedig gynnwys gohirio’r gwaharddiad ar werthu ceir petrol newydd, a gohirio’r broses o gael gwared ar fwyleri nwy.
Mae’r BBC yn adrodd bod y cynlluniau hefyd yn cynnwys cael gwared ar reoleiddiadau effeithlonrwydd ynni newydd mewn cartrefi.
Roedd gweinidogion wedi bod yn ystyried dirwyo landlordiaid sy’n methu gwneud newidiadau i’w tai er mwyn cyrraedd lefelau effeithlonrwydd ynni gwell.
Yn ôl Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, tenantiaid preifat fydd yn cael eu heffeithio waethaf gan y newidiadau.
“Bydd tenantiaid yn cael eu gorfodi i dalu biliau uwch, dioddef mwy o broblemau iechyd meddwl tra bod ein planed ni’n parhau i ddioddef mwy o allyriadau,” meddai.
“Mae hon yn sgandal fydd yn taro tenantiaid preifat tlotach waethaf.”
Yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd y blaid yn San Steffan, mae “coelcerth” Rishi Sunak o bolisïau gwyrdd yn “bradychu cenedlaethau’r dyfodol mewn modd brawychus”.
Dywed mewn datganiad y byddai dileu rheolau effeithlonrwydd ynni llymach ar gyfer landlordiaid yn arwain at “filiau uwch, gwaethygu iechyd a mwy o allyriadau”, fyddai’n cael effaith anghymesur ar y bobol dlotaf.
“Nid yn unig mae’n amgylcheddol abswrd, ond does dim achos economaidd chwaith dros gynyddu ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, gyda’r diwydiant yn galw allan am gysondeb polisi gan y Llywodraeth,” meddai.
“Bydd y penderfyniad hwn yn niweidio’r rhai tlotaf yn anghymesur, wrth i reoliadau effeithlonrwydd ynni ar aelwydydd, y mae mawr ei angen yn un o farchnadoedd tai lleiaf effeithlon Ewrop, gael eu dileu.
“Y canlyniad: biliau uwch, gwaethygu iechyd, a mwy o allyriadau.
“Rhaid i’r pwyslais fod ar sicrhau technolegau trawsnewid fel y gall teuluoedd yng Nghymru fforddio gwresogi eu cartrefi.
“Fydd cenedlaethau’r dyfodol ddim yn maddau i Rishi Sunak pe na bai’n ailystyried.”
Newidiadau posib
Dydy’r newidiadau heb gael eu cadarnhau eto, ond mae disgwyl i Rishi Sunak fanylu arnyn nhw mewn araith yn y dyddiau nesaf.
Yn ôl y BBC, maen nhw wedi gweld dogfennau sy’n awgrymu y byddai’r newidiadau’n cynnwys peidio â gwahardd gwerthu ceir petrol a disel newydd tan 2035, yn hytrach na 2030.
Er bod trafnidiaeth yn faes sydd wedi’i ddatganoli, mae’r cynllun i gael gwared ar geir petrol a disel newydd yn berthnasol i holl wledydd y Deyrnas Unedig.
Ynghyd â’r oedi wrth gael gwared ar fwyleri nwy ledled y Deyrnas Unedig, maen nhw hefyd yn dweud na fydd trethi newydd i annog pobol i beidio hedfan, na pholisïau gan y llywodraeth i annog pobol i rannu ceir, na newid eu diet.
Wrth ymateb i’r cynlluniau honedig, dywed Rishi Sunak fod Llywodraeth San Steffan wedi ymrwymo i gyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2050, ond mewn “ffordd fwy cymesur”.
Yn sgil y newyddion, mae Plaid Cymru’n dweud y byddai San Steffan yn “bradychu cenedlaethau’r dyfodol” drwy ohirio targedau sero net.
“Mae gweithredu ar gyfer dyfodol cynaliadwy yn gyfrifoldeb moesol,” meddai’r blaid.
“Rydyn ni ym Mhlaid Cymru yn falch o adeiladu dyfodol gwyrdd i Gymru.”
‘Cymhlethdod yr her yn anferthol’
Yn y cyfamser, mae Archwilwyr Cyffredinol Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a’r Deyrnas Unedig wedi llunio adroddiad ar y cyd sy’n nodi bod mwy o siawns o lwyddo i gyrraedd sero net pe bai Llywodraeth San Steffan a’r llywodraethau datganoledig yn “dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn cydweithio lle mae amcanion yn gyson â’i gilydd”.
Mae’r adroddiad Dulliau o sicrhau sero net ledled y Deyrnas Unedig yn dangos bod allyriadau wedi lleihau gan 46.7% ers 1990 dros y Deyrnas Unedig, ac mai trafnidiaeth oedd yn bennaf gyfrifol am allyriadau yn 2021 dros y pedair gwlad.
Yng Nghymru, cyflenwi ynni sy’n cyfrannu’n bennaf at allyriadau carbon (25.5%), ac wedyn busnes (24.2%) ac amaethyddiaeth (15.7%).
O gymharu, mae allyriadau Cymru wedi gostwng 27.8% yn erbyn llinell sylfaen 1990.
“Mae pwysau cyfredol ar gyllid cyhoeddus a’r costau byw cynyddol yn cyflwyno heriau i wneud cynnydd tuag at y targed yn 2050, ond mae methu ag arafu newid hinsawdd a pharatoi ar gyfer newidiadau yn ein hinsawdd yn debygol o osod cost drom ar genedlaethau’r dyfodol,” meddai’r pedwar Archwilydd – Adrian Crompton, Gareth Davies, Dorinnia Carville a Stephen Boyle – yn yr adroddiad gafodd ei gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf.
“Yn y cyfamser, mae risgiau gwastraff, costau cynyddol a’r risg y bydd prosiectau’n methu â dwyn manteision amgylcheddol sylweddol yn uchel.
“Fodd bynnag, os caiff ei gynllunio a’i gyflawni’n effeithiol, gall buddsoddi mewn mynd i’r afael â newid hinsawdd helpu llywodraethau i wireddu nodau polisi ehangach hefyd.
“Mae graddfa a chymhlethdod yr her yn anferthol, ac nid yw canlyniadau newid hinsawdd yn parchu ffiniau.
“Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig yn cynyddu’r tebygolrwydd o gyrraedd eu nodau polisi o ran yr hinsawdd os byddant yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn cydweithio lle mae amcanion yn gyson â’i gilydd.”