Tra bo carfan rygbi Cymru allan yn Ffrainc yn maeddu Ffiji a Phortiwgal, mae’r cyn-gapten wedi bod yn cynghori’r don nesaf o dalent.

Roedd Alun Wyn Jones yng nghlwb rygbi Waunarlwydd, pentref yng nghyffiniau Abertawe, i rannu ei brofiad helaeth.