Yn adnabyddus am ymddiddori yng ngherddoriaeth China ag India, mae Gareth Bonello – sy’n canu dan yr enw The Gentle Good – wedi creu albwm newydd sy’n tynnu ar draddodiadau ei famwlad…
O ogledd ddwyrain India i China, aiff diddordeb The Gentle Good â fo ymhell o’i famwlad i astudio traddodiadau cerddorol a chydweithio gyda cherddorion eraill. Ond y tro hwn gyda’i albwm newydd, penderfynodd Gareth Bonello aros yn nes at adref ac ymddiddori yn y traddodiadau sydd yn ei ardd gefn yma yng Nghymru.
Hen ganeuon traddodiadol gan Gymry wedi’u dehongli gan Gareth yn ystod y cyfnod clo sydd ar Galargan, sy’n gasgliad o ganeuon a gafodd ei ddewis yn Albwm Werin y Mis gan bapur newydd The Guardian. Yng nghyfnod y pandemig – pan roedd colled, anobaith, ofn a dicter yn teimlo’n fwy real nag erioed – roedd yr hen ganeuon hyn yn cynnig eu hunain, meddai Gareth.
Ond mae gobaith hefyd, gyda’r caneuon yn llawn o fyd natur yn gwibio trwy ei thymhorau ac yn cynnig pelydrau o oleuni.
Fel mae Gareth yn ddweud: “Rydyn ni’n ffeindio’n hunain yn gofyn: ‘Lle gall galar ffitio mewn byd sydd mor wyrdd, mor llawn o obaith a golau?’”
Pan darodd y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, roedd Gareth ar ddiwedd ei gyfnod ymchwil ar gyfer ei ddoethuriaeth. Cyn y cyfnod clo bu’n cynnal gwaith ymchwil ac yn gweithio ar yr albwm ‘Sai-thaiñ ki Sur gyda cherddorion Khasi, sef grŵp ethnig o Meghalaya yng ngogledd ddwyrain India. Teithiodd y Cymro a’r cerddorion Khasi o amgylch India ym mis Chwefror eleni ac yna o gwmpas Cymru ddechrau mis Mawrth yn arddangos eu gwaith.
Treuliodd fisoedd cyntaf y cyfnod clo yn dod i ben â’i PhD cyn ffeindio’i hun yn cwestiynu beth i wneud nesaf…
“Doeddwn i ddim mewn lle i sgrifennu deunydd newydd sa i’n meddwl,” meddai Gareth.
“Wnes i sgrifennu stwff newydd a rhyddhau EP yn gynnar yn ystod y cyfnod clo ac roedd yna gân werin ar hwnna ac wedyn cwpl o ganeuon mwy traddodiadol a chwpl o ganeuon gwreiddiol hefyd.
“Ar ôl hynny o’n i ffili ffeindio lot o ysbrydoliaeth, fel lot o bobol fi’n siŵr.
“Wedyn wnes i ffeindio fy mod i’n mynd i’r gegin i chwarae’r gitâr lot ac yn mynd yn ôl at yr hen ganeuon gwerin ro’n i’n chwarae pan wnes i ddechrau perfformio.
“Wnes i sylweddoli fy mod i heb recordio lot ohonyn nhw a fy mod yn eu defnyddio nhw fel rhyw fath o gysur, bron fel y blues; y ffordd mae pobol yn chwarae’r blues i wneud eu hunain deimlo’n well yn eu tristwch.
“Dw i’n meddwl mae o’r un fath o deimlad ag ydw i’n cael gan gerddoriaeth draddodiadol Gymreig a baledi gwerin Cymreig.
“Wnes i gael lot o gysur, a falle ffocws, allan o drefnu’r caneuon yma.
“Felly dros weddill y cyfnod clo, dyna ro’n i’n ei wneud.”
Dianc i Bowys
Yn gefndir gweddus i’r broses o osod a dehongli’r hen alawon roedd Cwm Elan a’i golygfeydd sinematig ym Mhowys, wedi iddo gael gwaith yn artistiaid preswyl yno.
Fel preswylydd, roedd Gareth yn cael aros mewn bwthyn unig ar fynydd uwch ben ardal Pen y Garreg pryd bynnag yr oedd eisiau dianc a rhoi trefn ar ei albwm. Ac o’r profiad yma daeth rhywfaint o’r ysbrydoliaeth ar gyfer Galargan.
“Wnes i dreulio lot o amser yno yn y bwthyn rhwng Hydref 2021 a Hydref 2022,” cofia.
“Ond dim ond ym mis Mai 2022 wnaethon nhw gael gwared ar yr holl gyfyngiadau.
“Felly ro’n i’n mynd yn ôl ac ymlaen i Gwm Elan ond doeddwn i ddim yn tueddu i weld lot o bobol yno, ac yn tueddu i dreulio lot o amser ar ben fy hun.
“A be wnes i wneud yn y fan yna oedd recordio lot o demos ar gyfer yr albwm a threfnu’r albwm, achos roedd hwnna’n un peth doeddwn i ddim yn gallu gwneud lot o yng Nghaerdydd… Dw i’n byw mewn tŷ teras yng nghanol Caerdydd, ac yn amlwg yn ystod y cyfnod clo roedd pawb adref felly doeddwn i ddim rili’n gallu recordio heb godi sŵn fy nghymdogion, ac roedd fy ngwraig yn ceisio gweithio lawr lofft.
“Gan fod y bwthyn yng Ngwm Elan yn dŷ cwbl ar ei ben ei hun, roedd cyfle i allu gweld be oedd gyda fi gyda’r gerddoriaeth werin ac wedyn trefnu’r caneuon.”
Yn ôl Gareth, fe fwydodd ei amser yng Nghwm Elan mewn i Galargan yn nhermau teimlad y cyfnod.
“Ro’n i’n trio prosesu’r pandemig a ro’n i – fel lot o bobol – yn drysu ac yn gwylltio gyda’r ffordd roedd cyfraith San Steffan yn rhedeg pethau.
“Roedd yna gyfnod yng Nghwm Elan ble ro’n i’n mynd lan a doedd dim internet na ffôn gennai felly ro’n i’n gallu bod yn gwbl ddigyswllt… Roedd e’n amhosib cysylltu â fi.
“Ac wedyn byddwn i’n dod i lawr a byddai yna Brif Weinidog newydd gyda ni neu Ysgrifennydd Gwladol a’r sgandalau yna i gyd… Pob tro ro’n i’n dod i lawr roedd rhywbeth enfawr wedi digwydd.
“Felly gyda chaneuon fel ‘Nid Wyf yn Llon’, roedd yna elfen o fi jest yn trio mynegi cymaint ro’n i’n drysu a chymaint ro’n i’n gwylltio gyda phopeth.”
Cân y carcharor
Amhosib ydy gwrando ar Galargan heb gael eich tynnu at ‘Nid Wyf yn Llon’ ar ôl clywed ei hanes. Mae’r gân yn cynnig teitl amgen i’r albwm cyfan ac yn adlewyrchu’r prif themâu ynddo hefyd, meddai Gareth. Fe gafodd y gân ei chanu gan feddwyn yng ngharchar Dolgellau, a’i chofnodi gan warden y carchar, yn ôl y llawysgrif yng nghasgliad Meredydd Evans a Phyllis Kinney o hen ganeuon traddodiadol Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Dyma gân sy’n trafod iselder ac annigonedd pleserau a chysuron dros dro.
Cân am gaethiwed o wefusau carcharor ydi hi, a thema addas i’r pandemig gyda’i geiriau llwm ac alaw leddf.
“Roedd hon yn un daeth o restr Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn y Llyfrgell Genedlaethol,” eglura Gareth, “a digwydd bod roeddwn i’n gwneud sesiwn i Radio Cymru ac roedd Gwenan Gibbard yn gwneud ymchwil ar yr archif ar y pryd a wnaeth hi gyflwyno llwyth o bapurau o’r archif i fi.
“Ac ‘Nid Wyf yn Llon’ oedd yr un wnes i bigo ar gyfer y sesiwn achos ro’n i’n hoffi’r alaw, a hefyd mae’r geiriau mor drist a garw, ond maen nhw’n brydferth dros ben.
“Rydych chi wir yn cael synnwyr o’r carcharor, ond eto’r mae thema’r pandemig yn atseinio.
“Doeddwn i heb glywed hon o’r blaen.
“Ac wrth ei chanu i gynulleidfaoedd yn ddiweddar dros yr haf, mae lot o bobol wedi dod lan yn dweud eu bod nhw’n nabod lot o’r gweddill yn y set ond ddim yn nabod ‘Nid Wyf yn Llon’.
“Fi’n credu bod e’n recordiad eithaf prin neu eithaf anadnabyddus.
“Ond mae pobol yn cysylltu gyda’r gân dw i’n meddwl, achos bod e’n un sy’n codi’r teimlad yna o alar sydd yn rhywbeth sydd ddim wedi newid dros y canrifoedd o gwbl.
“Dw i’n meddwl bod o’n gwneud e’n un hynod o effeithiol – yn enwedig y darn yna yn y canol ble rydych chi’n cael mymryn bach o olau ac rydych chi’n meddwl: ‘O mae e am fynd i rywle hapus nawr’ – ac mae fe’n mynd yn syth yn ôl i lawr eto.”
‘Beth yw’r Haf i mi?’
Roedd digonedd o hen ganeuon i’w dewis ar gyfer yr albwm, ond bu’n rhaid i Gareth ddewis a dethol y rhai a oedd yn cyfleu cyfnod y clo.
“Gallwn i fod wedi gwneud albwm ddwywaith hyd yr albwm yma.
“Ond ro’n i’n teimlo achos mai jest gitâr a llais yw e, bod y caneuon yn gallu bod yn eithaf tebyg i’w gilydd.
“Mae’n albwm eithaf byr, ac yn fyr iawn i fi.
“Ond ro’n i’n teimlo gan fy mod i ddim yn gwneud lot o amrywiaeth yn gerddorol, falle byddai’n neis cael albwm sy’n dwt ac yn fyr.
“Felly wnes i ddewis y caneuon oedd yn cynnig rhywbeth ac yn adrodd yr hanes.
“Ro’n i moyn cyfuniad o ganeuon oedd am y gwanwyn a’r haf yn enwedig, ond ro’n i eisiau magu’r teimlad bod e’n digwydd y tu allan fel ei fod mewn breuddwyd.
“Y syniad bod natur yn digwydd ond eich bod chi’n gwylio yn hytrach na bod yn rhan ohono fe.
“Ac wedyn caneuon am gaethiwed a thristwch a galar fel ‘Beth yw’r Haf i mi?’, ‘Nid Wyf yn Llon’ a ‘Y bachgen main’ – caneuon lot fwy cyfarwydd.
“Byddwn i’n hoffi recordio lot fwy ohonyn nhw, ond ar gyfer teimlad yr albwm roedd e’n well gwneud rhywbeth mwy cyfyng sy’n eithaf focused.”
Mwy o deithio
O ran y dyfodol, mae teithio eto ar agenda Gareth ac fe hoffai gwrdd â hen ffrindiau yn India a Rajasthan.
“Y peth am weithio gydag artistiaid tramor yw bo chi eisiau mynd yn ôl a gweithio efo nhw eto a datblygu gwaith.
“Dyna sy’n arwain at waith diddorol yn y pen draw – eich bod chi wedi cael amser i ddod i nabod eich gilydd a wir yn gallu datblygu.
“Felly dw i’n awyddus iawn i barhau i weithio gydag artistiaid Khasi yng ngogledd ddwyrain India, a dros y cyfnod clo ro’n i’n gweithio o bell gydag artistiaid o Rajasthan.
“Es i yno’r llynedd i berfformio gyda nhw a gyda’r cerddorion Khasi hefyd.
“Roedd e’n brofiad anhygoel a byddwn i’n hoffi gweithio mwy gyda cherddorion Rajasthan, sef Saz a cherddorion Khasi – maen nhw’n gerddorion arbennig o dda.
“Ond hefyd byddwn i’n hoffi treulio amser yn dod i nabod traddodiadau o’r ardal yma, fel cerddoriaeth draddodiadol Cymru, ond hefyd Iwerddon, yr Alban, Lloegr, Cernyw, Ynys Manaw, Ynys Llydaw a Galisia.”
Mae Galargan ar gael i’w ffrydio ac ar CD a record feinyl
Taith The Gentle Good
Bydd Galargan yn cael ei lansio ar daith ar y cyd rhwng Mentrau Iaith a PYST fis nesaf…
4 Hydref – Cartref Dylan Thomas, Abertawe – Angharad Jenkins
5 Hydref – Yr Hen Farchnad, Llandeilo – Bwca
6 Hydref – Y Cwtsh, Pontyberem – Lowri Evans
13 Hydref – Clwb y Bont, Pontypridd – Y Dail
14 Hydref – Memo, Y Barri – Paris Fouladi
15 Hydref – Tyn y Twr Tavern, Baglan – Melda Lois
19 Hydref – Gwesty Pen y Bryn, Llanfairfechan – Eve Goodman
20 Hydref – Ysgol Gymraeg y Trallwng – Iwan Huws
21 Hydref – Clwb Criced yr Wyddgrug – Gwilym Bowen Rhys
22 Hydref – Tafarn y Fic, Llithfaen – Gwyneth Glyn a Twm Morys