Roedd y canwr chwedlonol yn dathlu carreg filltir go bwysig yn ddiweddar, ac mae ganddo gyfres o gigs ar y gweill i ddathlu 40 mlynedd ers rhyddhau ‘Yma o Hyd’ – ac mae pob tocyn i’r nosweithiau hynny wedi eu gwerthu! 

Sut ben-blwydd gawsoch chi i ddathlu’r 80?

Ardderchog! Daeth y teulu i gyd adref, gan gynnwys y ddau aelod diweddaraf, sef fy wyrion, Miall sy’n fab i Llion a Rhiannon, a Ffredi Twm, mab Caio a Lois.