Mae ymateb cymysg wedi bod i gyhoeddiad yr elusen cydraddoldeb Chwarae Teg eu bod nhw’n dod i ben oherwydd diffyg cyllid.
Mewn datganiad, dywed y cadeirydd Sharon Williams nad oedd “storm berffaith o heriau ariannol wedi gadael unrhyw ddewis arall”.
Dywed fod colli cyllid Ewropeaidd a “rhagdaliad hanesyddol” yr elusen sy’n rhaid mynd i’r afael ag e wedi cyfrannu at sefyllfa anodd yr elusen.
“Ynghyd â’r sefyllfa economaidd anodd sy’n wynebu pob elusen, mae hyn wedi gadael Chwarae Teg yn rhy fregus yn ariannol,” meddai.
“Er mwyn gwneud y peth iawn ar gyfer ein staff, ein cleientiaid a’n rhanddeiliaid eraill, cau dan reolaeth yw’r unig opsiwn ymarferol sydd gennym bellach.
“Yn anffodus, aflwyddiannus fu’r cais i Lywodraeth Cymru am becyn achub.”
“Effaith polisïau’r Deyrnas Unedig”
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y dyraniad i Gymru o’r Gronfa Ffyniant Cyffredin dros £1bn yn llai na chronfeydd strwythurol a gwledig yr Undeb Ewropeaidd.
“Yn anffodus, mae hon yn enghraifft o sut mae polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn effeithio ar sefydliadau yng Nghymru,” meddai.
“[Mae hyn] wedi’i waethygu gan oedi a gweithredu anhrefnus Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan roi awdurdodau lleol dan bwysau aruthrol a niweidio sectorau allweddol o’n heconomi.”
Bu’n rhaid i’r elusen wneud toriadau i staff yn gynharach eleni, er mwyn ceisio sicrhau eu dyfodol.
Bu iddyn nhw hefyd sefydlu’r gangen fasnachol FairPlay Trading yn 2019, yn y gobaith o “sicrhau ffrwd ariannu newydd ar gyfer yr elusen”.
“Er bod hyn wedi cyflawni prosiectau llwyddiannus sy’n grymuso cydraddoldeb ledled Cymru, ni ddaeth yn broffidiol,” meddai.
“Yr wythnos ddiwethaf, gwnaethom y penderfyniad i ddiddymu FairPlay Trading.”
Ymatebion y cyhoedd
Mae nifer o bobol wedi bod yn ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol i’r cyhoeddiad.
Tra bod rhai yn diolch am eu gwaith, dywed eraill iddyn nhw gael profiadau cadarnhaol wrth gydweithio â’r elusen dros y blynyddoedd.
Dywed Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, fod y cyhoeddiad yn “newyddion ofnadwy” ac yn “golled enfawr”.
“Mae Chwarae Teg yn gwneud gwaith gwych,” meddai.
“Cefais y fraint o weithio ochr yn ochr â’r elusen am flynyddoedd lawer, a gwelais yr effaith gadarnhaol a gafodd ar gydraddoldeb economaidd menywod.”
Dywed Siobhan Parry o’r sefydliad anllywodraethol Platfform ei bod hi wedi manteisio ar gyrsiau Chwarae Teg yn gynnar yn ei gyrfa.
“Mae hyn yn newyddion trist iawn i’w ddarllen,” meddai.
“Roeddwn i’n ddigon ffodus i wneud cwpwl o gyrsiau gyda Chwarae Teg yn gynnar yn fy nhaith arweinyddiaeth, ac fe wnaeth gymaint o wahaniaeth i mi.
“Diolch am bopeth rydych chi wedi’i wneud, ac anfon dymuniadau gorau i bawb a gymerodd ran.”
Dywed Dr Rachel Hughes, Cyfarwyddwr Dotiau, fod elusennau fel Chwarae Teg “yn chwarae rhan allweddol yn ein cymdeithas ddinesig”.
“Colled fawr i bawb sy’n ceisio cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru,” meddai.
“Diolch am yr hyn rydych chi wedi’i gyflawni dros y blynyddoedd.
“Rwy’n gobeithio y bydd dyfodol gobeithiol i’r staff a’r gwaith pwysig hwn.”
‘Synnu’
Dywed eraill eu bod nhw “wedi synnu” nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cynnig cymorth ariannol i Chwarae Teg.
Un ohonyn nhw yw Sandra Veasey.
“Ofnadwy yn wir, dw i’n synnu yn @LlywodraethCym am beidio â chefnogi’r elusen,” meddai.
Ond daeth yr ymateb mwyaf chwyrn gan Sonya Douglas, sy’n arlunydd, bardd ac awdur.
Mae’n dweud bod Chwarae Teg “wedi bradychu merched a menywod Cymru drwy gynnwys dynion yn eu diffiniad ‘croestoriadol’ o fenywod”.
“Mae’r ffaith eu bod nhw bellach yn cau o ganlyniad i golli cyllid yn eironi chwerw,” meddai.
“Fe wnaeth nifer o sefydliadau menywod eraill gyd-fynd â’u celwydd er mwyn arian.”