Mae ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu sefydlu gorsaf radar gofodol ym Mreudeth, Sir Benfro wedi beirniadu ymdrechion diweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig i geisio lleddfu gofidion pobol leol.
Yn ôl y grŵp Parc yn erbyn DARC, sef Deep Space Advance Radar Concept, dim ond “ymarfer ticio bocsys” oedd ymgynghoriad cyhoeddus y Weinyddiaeth Amddiffyn y penwythnos diwethaf.
Yn 2016, cyhoeddodd y Weinyddiaeth y byddai Barics Cawdor, sef yr enw newydd ar RAF Breudeth, yn cau erbyn 2028.
Nawr, maen nhw’n bwriadu ailwampio’r safle fel un o orsafoedd dysglau radar gofodol mwyaf y byd.
Nod y cynllun, yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ydy diogelu gwledydd Prydain rhag bygythiadau o’r gofod, megis lloerennau, ac mae’n rhan o gytundeb diogelwch AUKUS rhwng Awstralia, y Deyrnas Unedig ac America.
Bydd cais cynllunio’n cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Benfro’n hwyrach eleni neu flwyddyn nesaf.
Er mwyn paratoi at hynny, cafodd y cyhoedd eu gwahodd i drafod y cynigion yn Solfach a Thyddewi dros y penwythnos.
Bwriad y cyfarfodydd oedd rhoi cyfle i’r cyhoedd gael cyfarfod ag aelodau o dîm y prosiect, fyddai’n medru egluro’r cynigion, ateb cwestiynau a chlywed barn pobol leol.
‘Dryslyd a phrin o wybodaeth’
Ond “siambls llwyr” wedi’i gynllunio gan “gwmni PR o Lundain” oedd digwyddiadau’r penwythnos, yn ôl llefarydd ar ran y grŵp Parc yn erbyn DARC.
Roedd sawl cwestiwn lle nad oedd eglurhad nac atebion o gwbl gan drefnwyr y digwyddiadau, yn ôl y llefarydd.
“Dro ar ôl tro, fe glywson ni bobol yn cwyno’u bod nhw’n cael atebion hollol wahanol gan ‘arbenigwyr’ gwahanol, a phan gafodd yr arbenigwyr eu gwthio ar unrhyw un o’r cwestiynau mwyaf difrifol, dim ond ateb ‘Fedrwn ni ddim ateb hynny’ neu ‘Dydyn ni ddim yn gwybod ar hyn o bryd’ eto ac eto wnaethon nhw.
“Fe wnaeth rhai o gynrychiolwyr eraill y Weinyddiaeth ddim ond ailadrodd y mantra mai yn ei ‘gam cysyniadol’ oedd DARC.
“Rhoddodd hynny’r argraff ryfeddaf i ni, fod gymaint o hyder ganddyn nhw mewn cynnig roedden nhw’n gwybod prin iawn amdano fe.”
Yn ôl Parc yn erbyn DARC, doedd dim atebion clir i bryderon am effaith llygredd gweledol y lloerennau ar Freudeth fel ardal dwristaidd, nac i gwestiynau’n ymwneud â llif traffig yn ystod y broses adeiladu.
Doedd dim eglurhad gan y Weinyddiaeth am sut y byddai isadeiledd pŵer a thrafnidiaeth yr ardal yn ymdopi gyda gofynion y safle newydd.
Cafodd cwynion am ddefnydd enwau anghywir ar gylchlythyrau’n hysbysebu’r digwyddiadau, megis Penycwn yn lle Penycwm a Newgate yn lle Newgale, eu hanwybyddu hefyd.
Yn ogystal, yn ôl yr ymgyrchwyr, pan ofynnodd un aelod o’r cyhoedd am beryglon iechyd y dysglau radar, ateb swyddog milwrol oedd yn bresennol oedd: “Fyddwn i ddim yn sefyll yn ymyl un o’r dysglau fy hunan; mi fyddai hynny fel rhoi fy mhen mewn meicrodon.”
Roedd awgrym na fyddai’r data am allbwn pŵer y dysglau fyth ar gael yn gyhoeddus, hyd yn oed yn rhan o’r cais cynllunio, am ei bod yn wybodaeth ‘weithredol’.
“Doedden ni’n methu ffeindio neb oedd wedi’u bodloni gyda’r atebion gafon nhw; fe adawodd sawl person yn syn, gan deimlo bod yr ymgynghoriad wedi’i frysio, yn ddryslyd ac yn brin ar wybodaeth,” ychwanega Parc yn erbyn DARC.
“Dywedon nhw wrthym ni eu bod nhw wedi clywed y Weinyddiaeth yn gwrthddweud eu hunain dro ar ôl tro, bod y cynrychiolwyr wedi ymddangos yn amwys ac yn amddiffynnol, a bod sawl un ohonyn nhw’n teimlo’u bod nhw wedi cael eu twyllo.”
‘Diffyg atebion’
Pan holodd golwg360 rai o aelodau’r cyhoedd nad oedden nhw ynghlwm â’r grŵp, roedden nhw’n teimlo’r un fath.
Dywed Siân Lawson, meddyg sy’n byw’n lleol ac sy’n dweud nad ydy hi o blaid nac yn erbyn y cynlluniau, fod diffyg atebion wedi bod gan y Weinyddiaeth yn ystod y cyfarfodydd.
Mae hi’n teimlo nad oedden nhw’n ymddangos fel eu bod nhw wedi paratoi’n dda o flaen llaw, a bod argraff ymgyrch gysylltiadau cyhoeddus ganddyn nhw.
Mae hi’n teimlo’n rhwystredig hefyd am fod y Weinyddiaeth wedi sôn mewn cylchlythyr diweddar y byddai asesiad amgylcheddol yn cael ei gynnal cyn yr ymgynghoriad, ond nad oedd unrhyw awgrym o’r asesiad i’w weld dros y penwythnos.
Dywed nad oedd hi’n disgwyl y byddai’r Weinyddiaeth yn cymryd llawer o sylw o’r hyn gafodd ei drafod yn ystod y cyfarfodydd.
O ganlyniad i’r diffyg atebion, cyhuddodd Parc yn erbyn DARC gwmni Cascade, trefnwyr y digwyddiadau ar ran y Weinyddiaeth, o fod “allan o’u dyfnder” yng Nghymru.
“Daeth hi’n amlwg yn sydyn iawn nad oedden nhw’n dilyn Egwyddorion Cenedlaethol Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru,” medden nhw.
“Roedd y digwyddiadau’n amlwg iawn yn siambls, ac roedd hi’n glir bod y cwmni’n cynnal ymarfer PR yn hytrach na’r ymgynghoriad cyhoeddus mae disgwyl statudol iddyn nhw ei gynnal.”
Yn ôl yr ymgyrchwyr, dydy cynrychiolwyr Cascade ddim yn gwybod pa fath o ymgynghoriad fydd yn cael ei gynnal wedi’r digwyddiadau hyn.
“Pe bai’r Weinyddiaeth Amddiffyn o ddifrif am ymgysylltu gyda’r boblogaeth leol am DARC, yn hytrach na dim ond gwneud ymarferion ticio bocsys, byddai wedi bod yn well cael gwared â’u cwmni PR o Lundain, Cascade, sydd heb ddim cysylltiad â Sir Benfro, a’i ddisodli gyda chwmni ymgysylltu â’r cyhoedd o Gymru – yn ddelfrydol un sy’n gwybod sut i ddarganfod a blaenoriaethu beth mae cyhoedd ardal wir ei eisiau a’i angen.
“Rydyn ni’n credu bod y styntiau PR yma wedi methu’n ddifrifol yn eu dyletswyddau wrth ymwneud â’r cyhoedd, ac rydyn ni’n mynnu atebion difrifol i’r holl gwestiynau difrifol rydyn ni wedi’u codi.”
Aeth ffurflenni’n gofyn am adborth pellach gan y cyhoedd yn fyw ddydd Llun (Medi 16).
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.