Mae elusennau’n galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phrinder tai drwy hybu’r cyflenwad o dai cymdeithasol.
Yn ôl adroddiad newydd gan Shelter Cymru a Sefydliad Bevan, mae un ym mhob 215 o aelwydydd yng Nghymru bellach yn byw mewn llety dros dro.
Fe wnaeth nifer yr aelwydydd hynny gynyddu 18% yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth eleni.
I filoedd, mae hyn yn golygu byw mewn gwestai, gwely a brecwast, ac mewn meysydd carafanau.
Mae’r ymchwil newydd, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Medi 19) yn pwysleisio’r effaith mae’r sefyllfa’n ei chael ar bobol ac yn tynnu sylw at bryderon penodol am effaith llety dros dro ar blant.
Mae bron i 3,000 o blant yn byw mewn llety dros dro yng Nghymru gyda’u teulu – bron i chwech ym mhob 1,000 o blant.
Mae ymchwil yn dangos bod traean ohonyn nhw’n byw yn y llety dros dro ers dros flwyddyn.
Dywedodd un tad sydd â phlant oed ysgol wrth yr ymchwilwyr nad yw’r sefyllfa’n deg ar y plant.
“Dydy fy merch ddim eisiau mynd i’r ysgol bellach,” medd y tad.
“Roedd hi’n cael problemau gyda phlant eraill… ac mae hi’n teimlo embaras am sut rydyn ni’n byw.
“All y plant ddim cael ffrindiau draw fan hyn.”
‘Ddim yn syndod’
Gyda bron i 1,000 yn fwy o aelwydydd mewn llety dros dro ar ddiwedd 2023/24 nag ar ei ddechrau (966), a dim ond 30% o aelwydydd wedi symud i dai parhaol addas yn ystod y flwyddyn, mae’r elusennau’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i roi cartrefi i bobol drwy hybu’r cyflenwad o dai cymdeithasol.
“Mae cost ddynol ein hargyfwng tai yn amlwg yn y niferoedd cynyddol heb unman parhaol i’w alw’n gartref,” meddai Wendy Dearden, Uwch Swyddog Polisi ac Ymchwil Sefydliad Bevan.
“Rydym yn cydnabod fod awdurdodau lleol yn gwneud eu gorau glas i helpu pobol, ond mae prinder tai fforddiadwy iddyn nhw symud iddyn nhw yn rhoi pwysau aruthrol ar y system.”
Mae’r adroddiad yn “destun darllen dirdynnol”, ond nid yw’n syndod, yn ôl Robin White, Pennaeth Ymgyrchoedd Shelter Cymru.
“Dyma’r straeon rydyn ni’n eu clywed bob dydd gan y bobol sy’n dod atom ni am help, pobol sydd angen cartref cymdeithasol diogel, sicr, addas a gwirioneddol fforddiadwy ond sy’n cael eu gadael gyda llety dros dro fel yr unig opsiwn oherwydd system sydd yn syml ddim yn gweithio,” meddai.
“Gwyddom nad yw awdurdodau lleol am fod yn ddibynnol ar lety Gwely a Brecwast ac atebion drud, tymor byr eraill.
“Dyna pam fod angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn flaenoriaeth drawslywodraethol a buddsoddi ymhellach i ddarparu’r cartrefi cymdeithasol mae dirfawr eu hangen ar Gymru.”
‘Blaenoriaeth allweddol’
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod mynd i’r afael â digartrefedd a darparu mwy o gartrefi yn “flaenoriaeth allweddol” i’r llywodraeth hon, a’u bod nhw wedi gosod targed heriol ac wedi dyrannu’r lefelau uchaf erioed o gyllid yn ystod y tymor Seneddol hwn.
Hyd yn hyn, maen nhw wedi buddsoddi dros £1.4bn.
“Mae’r cynnydd yn nifer y bobol sy’n cael eu cefnogi gyda llety dros dro yn adlewyrchu’r pwysau parhaus o fewn y system ac effeithiau’r argyfwng costau byw ar unigolion a chartrefi,” meddai’r llefarydd.
“Er gwaethaf yr heriau, rydyn ni’n parhau i fabwysiadu dull nad oes ‘neb yn cael eu gadael allan’ yng Nghymru ac, eleni yn unig, rydyn ni’n buddsoddi bron i £220m i atal digartrefedd a chymorth tai i helpu lleihau’r llif o bobol sydd angen llety dros dro.”