Mae brenin Sbaen ac arlywydd Catalwnia wedi cyfarfod am y tro cyntaf ers naw mlynedd.

Fe wnaeth yr Arlywydd Salvador Illa gyfarfod â’r Brenin Felipe VI ddoe (dydd Mercher, Medi 18) ym Mhalas Zarzuela, lle mae’r brenin yn byw.

Artur Mas oedd arweinydd diwethaf Catalwnia i ymweld â’r palas ym Madrid, yn 2015.

Nod y cyfarfod oedd “adfer normalrwydd sefydliadol”, meddai llefarydd, yn dilyn blynyddoedd o wrthdaro pan oedd Catalwnia dan reolaeth pleidiau sydd o blaid annibyniaeth.

Dywed Salvador Illa y bydd parch rhwng sefydliadau’n un o nodweddion craidd ei lywodraeth.

Torri cysylltiad

I’r gwrthwyneb, fe wnaeth nifer o lywodraethau blaenorol Catalwnia dorri cysylltiad â brenhiniaeth Sbaen.

Fe waethygodd y berthynas ar ôl refferendwm annibyniaeth 2017, oedd yn cael ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan unoliaethwyr Sbaen.

Yn dilyn y bleidlais yn 2017, fe draddododd y brenin fath o araith sydd ond wedi cael ei thraddodi bedair gwaith o’r blaen – yn dilyn ymgais i ddisodli’r llywodraeth yn 1981, ar ôl ymosodiadau brawychol ym Madrid yn 2004, wedi marwolaeth y cyn-Brif Weinidog Adolfo Suárez, ac ar ôl i dad y brenin, Juan Carlos, adael ildio’r orsedd yn 2014.

Yn ei araith, fe wnaeth Felipe VI annog Llywodraeth Sbaen i “adfer trefn gyfansoddiadol”, gan roi sêl bendith i Erthygl 155, sy’n rhoi’r grym i Lywodraeth Sbaen ddiarddel Llywodraeth Catalwnia.

Ers yr araith honno yn 2017, mae arlywyddion o blaid annibyniaeth – Carles Puigdemont, Quim Torra a Pere Aragonès – wedi gwrthod ymweld â’r palas.