Mae gwrthwynebiad llym gan rai o drigolion gogledd Sir Benfro i gynlluniau i godi gorsaf radar gofodol yn safle Barics Cawdor ger Breudeth.

Daw hyn ar drothwy ymgynghoriad cyhoeddus gan y Weinyddiaeth Amddiffyn y penwythnos yma.

Mae’r cynlluniau’n rhan o gytundeb amddiffyn cynghreiriaeth AUKUS rhwng Awstralia, y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau.

Mae’r grŵp Parc yn erbyn DARC, sy’n adfywiad o ymgyrch leol yn erbyn cynigion tebyg yn y 1990au, yn mynnu bod rhesymau iechyd, economaidd, heddychol ac amgylcheddol dros bryderu am y cynllun.

Mae aelodau Parc yn gwersylla ar droad yr A487 am Freudeth ar hyn o bryd.

‘Mynd o flaen gofid’?

Ond yn ôl rhai o drigolion eraill yr ardal, mae’r rheiny sy’n wrthwynebus yn mynd o flaen gofid.

Does dim digon o dystiolaeth y naill ffordd na’r llall am effaith bosib y radar, medden nhw, ac mae bygythiad y bydd gwrthwynebiad rhy chwyrn yn gwireddu’r union niwed economaidd mae grwpiau fel Parc yn rhybuddio yn ei erbyn.

Mae Parc yn erbyn DARC yn dadlau bod “astudiaethau dirifedi degawdau o hyd” sy’n profi perygl dysglau radar fel y rhai sydd wedi’u cynnig ym Mae Sain Ffraid.

Yn ôl y grŵp, mae tystiolaeth ddigonol er mwyn dadlau nad yw’r ymbelydredd mae’r dysglau’n eu defnyddio’n ddiogel i bobol, a’i fod yn gyfrifol am gyfraddau uwch o ganser ymhlith pobol sy’n byw gerllaw.

Bydd gosod dysglau radar hefyd yn niweidiol yn economaidd ac yn amgylcheddol, meddai’r grŵp, gan ddiffetha’r olygfa arfordirol odidog sy’n hwb i’r economi twristiaeth lleol.

Bydd yr ychydig swyddi fydd yn cael eu cynhyrchu’n ddim o gymharu â’r rheiny fydd yn colli allan, medden nhw.

Yn ogystal, mae rhesymau dyngarol a heddychol dros wrthwynebu’r prosiect, yn ôl Parc.

Nid prosiect bur amddiffynnol ydy codi’r dysglau radar, medden nhw, ond rhan o fenter drefedigaethol a milwrol newydd yr Unol Daleithiau.

Anghenraid, meddai’r grŵp, ydy gwrthwynebu troi’r gofod yn faes rhyfela newydd.

Ond nid pawb sy’n cytuno.

Dywed William Wint, academydd sy’n byw ger Llan-lŵy, nad oes dim rheswm i ddisgwyl y bydd effaith ddifrifol gan y radar ar iechyd trigolion na’r economi lleol.

Mae’n teimlo bod y wybodaeth sydd wedi’i rhannu gan y Weinyddiaeth Amddifyn wedi bod yn agored ac yn ddigon calonogol, ac nad oes rheswm gofidio’n orfodol ar hyn o bryd.

“Dwi’n credu bod y rhan fwyaf o bobol yma’n eithaf di-bryder,” meddai.

“Ar sail ychydig iawn o dystiolaeth mae’r ymgyrch gan Parc yn erbyn DARC, ac mae’n hollol ddibynnol ar dybiaethau sydd eto i’w cadarnhau.

“Fe allen nhw wireddu’r union niwed economaidd maen nhw’n rhybuddio yn ei erbyn drwy godi ofn ar bobol yn ddi-sail.”

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal heddiw (dydd Gwener, Medi 13) rhwng 4yp a 7yh, a fory (dydd Sadwrn, Medi 14) rhwng 10yb a 2yp yn Neuadd y Ddinas Tyddewi.