Mae Mentrau Iaith Cymru’n chwilio am Aelodau Bwrdd Annibynnol newydd sy’n “frwd dros gynyddu defnydd y Gymraeg yn eu cymunedau”.
Maen nhw’n dweud y bydd yr aelodau newydd yn helpu i sicrhau eu bod nhw’n “diwallu anghenion y Mentrau Iaith yn effeithiol”.
Maen nhw’n chwilio am bum aelod newydd i ymuno â’r Bwrdd Cyfarwyddwyr, ac yn awyddus i sicrhau bod un rhwng 19 a 25 oed a bod yna arbenigedd yn eu plith ym meysydd cydraddoldeb a chynhwysiant, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, cynllunio ieithyddol a chymunedol, a denu nawdd.
Mae’r Bwrdd yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn, a bydd aelodau’n “helpu’r cyfarwyddwyr gweithredol i roi cyfeiriad strategol i waith Mentrau Iaith Cymru ac i eirioli dros y mudiad wrth iddyn nhw gefnogi gwaith y 22 Menter Iaith ar draws Cymru”.
Y dyddiad cau i wneud cais yw Hydref 18, ac mae modd gwneud cais drwy wefan Mentrau Iaith Cymru.
‘Creu cyfleoedd i gymunedau Cymraeg ffynnu’
“Pwrpas Mentrau Iaith Cymru yw cefnogi gwaith y Mentrau Iaith i greu cyfleoedd i gymunedau Cymraeg ffynnu ym mhob cwr o Gymru,” meddai Dr Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Mentrau Iaith Cymru.
“Rydyn ni am elwa o arbenigedd aphrofiadau aelodau annibynnol ac yn gyffrous i weithio mewn ffordd newydd, mwy atebol.”