Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn dweud y dylid trysori Marchnad Castell-nedd, yn dilyn pryderon ac amheuon ynghylch ei dyfodol.
Mae Sioned Williams, sydd â’i swyddfa yn ardal y farchnad, wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr y Cyngor Sir i ofyn am eglurder ar ôl i fasnachwyr a chwsmeriaid fynegi pryderon.
Dywed fod y cynnydd sydyn mewn stondinau gwag wedi codi cwestiynau ac wedi arwain at “ddyfalu mawr” a “sibrydion anffodus” ar y cyfryngau cymdeithasol y gallai’r farchnad gau yn llwyr.
Yn ddiweddar, bu Sioned Williams yn cyfarfod â masnachwyr i ddeall mwy am eu pryderon, sy’n ymwneud â chynlluniau’r Cyngor ar gyfer y dyfodol, hyd prydlesau, a’r broses o wneud cais am le yn y farchnad.
Fe wnaeth eu pryderon, ynghyd â’r dyfalu ehangach am gynlluniau’r Cyngor ar gyfer y farchnad, ei hysgogi i ysgrifennu at Karen Jones, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot, i ofyn am gadarnhad am ymrwymiad y Cyngor i gefnogi’r farchnad, darganfod beth maen nhw’n ei wneud i ddenu stondinwyr newydd, a dysgu sut maen nhw’n bwriadu hyrwyddo’r farchnad hanesyddol.
‘Calon y dref’
“Marchnad Castell-nedd yw calon y dref, ac rwyf am ei gweld yn cymryd ei lle fel gwir drysor canol tref Castell-nedd,” meddai Sioned Williams.
“Mae ganddi botensial enfawr y gellid ei wireddu gyda hyblygrwydd, buddsoddiad wedi’i dargedu, gwell hyrwyddo, a gwell cyfathrebu a chydweithio rhwng y Cyngor a masnachwyr.
“Mae ei phwysigrwydd o ran denu ymwelwyr i ganol y dref yn bwysicach nag erioed o ystyried cau Marks and Spencer.
“Fodd bynnag, mae’r stondinau gwag a’r ymddangosiad blinedig wedi arwain at fwy o ddyfalu am ddyfodol y farchnad hanesyddol hon.
“Rwy’n gwybod o fy arolwg diweddar i ddyfodol canol tref Castell-nedd fod pobol yn ei gwerthfawrogi.
“Mae gan y Cyngor gyfle go iawn i wneud pethau’n wahanol, a gwneud Marchnad Castell-nedd yn galon fywiog y dref yn unol â dymuniadau a dyheadau gymaint o ohonom.
“Hoffwn dderbyn sicrwydd bod y Cyngor yn blaenoriaethu’r farchnad yn hyn o beth, eu bod wedi archwilio pob cyfle i dderbyn cyllid grant i ddiweddaru ei edrychiad, a’u bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i hyrwyddo ein marchnad wych i ddarpar gwsmeriaid a masnachwyr newydd fel ei gilydd.”