Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion Preseli yn galw am ddilyn esiampl Gorllewin Awstralia wrth recriwtio meddygon a nyrsys i weithio yng Nghymru.

Daw’r alwad gan Ben Lake yn sgil prinder gweithwyr mewn gwasanaethau cyhoeddus, wrth iddo ddweud y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynnal ymgyrch recriwtio.

Mae’n rhybuddio y gallai gostyngiad ym mhoblogaeth cefn gwlad Cymru arwain at “gwymp gwasanaethau cyhoeddus” pe na bai’r Llywodraeth yn ymyrryd er mwyn cadw pobol ifanc yng nghefn gwlad a denu gweithwyr o rannau eraill o’r byd.

Y llynedd, cafodd ymgyrch ei lansio yng Ngorllewin Awstralia i dargedu gweithwyr o’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon, gan addo cyflogau uwch, gwell safonau byw a chostau byw is pe baen nhw’n mynd yno i weithio.

“Rydyn ni yma i ddwyn eich gweithwyr drwy gynnig bywyd gwell iddyn nhw yn un o’r llefydd hyfrytaf ar y blaned,” meddai Paul Papalia, un o weinidogion Llywodraeth Gorllewin Awstralia, mewn fideo ar gyfer yr ymgyrch.

Manteision – ac anfanteision – byw yng nghefn gwlad Cymru

Yn ôl Ben Lake, mae nifer o fanteision i fyw yng nghefn gwlad Cymru hefyd, ac mae’n galw ar lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i wneud mwy i ddenu gweithwyr allweddol i gymunedau cefn gwlad.

Roedd gostyngiad o 5.9% ym mhoblogaeth Ceredigion yn y Cyfrifiad diwethaf yn 2021, tra bod poblogaeth Sir Benfro wedi aros yn gyson.

Yn yr etholaeth sy’n pontio dwy sir, mae pobol yn profi “canlyniadau gwirioneddol diboblogi”, medd Ben Lake, wrth gyfeirio at brinder meddygon teulu, gwasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd mewn nifer o ardaloedd, ysgolion yn cau a diffyg cyfleusterau bancio wrth i fanciau gau canghennau gwledig.

Rhybuddia fod Cymru wledig yn wynebu “gwasanaethau cyhoeddus yn dymchwel” oni bai bod llywodraethau Cymru a San Steffan yn gweithredu er mwyn denu gweithwyr i Gymru, gyda’r holl bwerau dros fewnfudo yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Diboblogi

“Yn y Cyfrifiad diwethaf, fe wnaeth Ceredigion – sef y rhan fwyaf o’m hetholaeth – gofnodi gostyngiad o 5.9% yn ei phoblogaeth gyfan, ac fe welodd cymunedau Preseli neu Benfro, dw i bellach yn eu cynrychioli, eu poblogaeth yn gwastadu,” meddai Ben Lake yn San Steffan.

“Mae hon yn broblem rydyn ni’n sicr yn byw â hi heddiw. Beth mae’n ei olygu?

“Yn ymarferol, mae’n golygu ein bod ni’n cael trafodaethau anodd iawn, er enghraifft, am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ac yw ystad yr ysgolion yn gynaliadwy at y dyfodol.

“Rydyn ni’n siarad am brinder meddygon teulu a’r ffaith nad oes gennym ni ddeintydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ragor mewn llawer o’r etholaeth.

“Mae tri banc adnabyddus yn y Deyrnas Unedig sydd heb yr un gangen bellach yn y ddwy sir dw i’n eu cynrychioli.

“Dyma ganlyniad go iawn diboblogi.

“Dyma rywbeth y gall Llywodraeth y Deyrnas Unedig helpu ag e, ac fe ddylai fod ar eu radar.

“Pan fydd y Swyddfa Gabinet yn edrych ar yr ystod o beryglon mae’n rhaid iddi eu monitro yn rhan o’i gorchwyl – rhywbeth y gwnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei drafod yn y Senedd flaenorol – dylai edrych ar sut y gallai’r gwahaniaethau rhwng tueddiadau demograffig ledled yr ynysoedd hyn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus, oherwydd mewn rhai rhannau o’r Gymru wledig, dw i’n ofni y byddwn ni’n gweld gwasanaethau cyhoeddus yn dymchwel.

“Bydd hynny’n cael effaith ganlyniadol ar ragor o ardaloedd trefol, sydd hefyd yn ei chael hi’n anodd o ran gwahanol bwysau demograffig.”

‘Dadl bwysig’

“Mae hon yn ddadl bwysig, a dw i’n gofyn i Weinidog y Swyddfa Gartref i ystyried, yn rhan o’i gwaith yn y Senedd newydd hon, y gwersi i’w dysgu o brofiadau ledled y byd,” meddai Ben Lake wedyn.

“Soniodd fy nghyfaill anrhydeddus, yr Aelod dros Perth a Sir Kinross [Pete Wishart], am brofiadau Quebec.

“Fel pobol o orllewin Cymru, rydyn ni’n aml yn troi’r radio ymlaen ac yn clywed hysbysebion gan Lywodraeth Gorllewin Awstralia yn ceisio denu nifer o’n meddygon a’n nyrsys ifainc i fudo i’r rhan honno o’r byd.

“A oes yna cymhelliant y gallen ni ei ddefnyddio i berswadio rhagor o bobol ifanc i aros neu i ddenu’r rheiny o rannau eraill o’r byd?

“Mae nifer o fanteision i fyw yng nghefn gwlad.

“Efallai y gallen ni fod yn fwy creadigol wrth fynd i’r afael â’r broblem hon, oherwydd dw i’n ofni nad oes gennym ni lawer o amser ar ôl i ymdrin â hi.”