Y crochenydd Erin Lloyd sy’n agor y drws i’w chartref yng Nghyffylliog yn Sir Ddinbych yr wythnos hon…
Dw i’n byw mewn pentref bach o’r enw Cyffylliog, sydd ger tref Rhuthun, Sir Ddinbych. Dyma le ges i fy magu a dw i’n dal i fyw ar y fferm jest tu allan i’r pentref mewn cymuned Gymreig yng nghefn gwlad. Un o’r rhesymau pam wnes i benderfynu aros yn yr ardal hon oedd oherwydd fy mod i bellach yn defnyddio clai a phridd o dir y fferm yn fy nghrochenwaith. Hefyd, dw i’n ffodus iawn bod fy stiwdio crochenwaith yn un o’r cytiau fferm sy’n agos i’r tŷ. Mae ’na rywbeth arbennig am fyw yn yr ardal lle cawsoch chi eich magu, a’r gallu i gael eich ysbrydoli gan y dirwedd a byd natur bob dydd.
Dw i wedi byw yn y tŷ yma drwy gydol fy mywyd! Dyma’r tŷ lle cefais fy magu, a dw i’n hiraethu amdano pan dw i ddim yma. Dw i’n hynod o ffodus i fyw yng nghefn gwlad a rhywle sy’n ddistaw ac mor hardd.
I fi, mae cartref yn rhywbeth y tu hwnt i’r adeilad ei hun. Mae gen i gariad tuag at y tir o amgylch y tŷ. Fel merch fferm, dw i’n teimlo’n fwyaf heddychlon ym myd natur a phan dw i’n crwydro’r caeau. Mae’r cysylltiad yma gyda byd natur yn rhywbeth roedd fy rhieni wedi annog wrth i mi dyfu fyny. Dw i’n teimlo’n ffodus iawn i gael cartref lle dw i’n gallu crwydro’r dirwedd yn rhydd, ac sy’n rhoi ysbrydoliaeth i fi’n ddyddiol.
Mae’n anodd dewis hoff le yn fy nghartref gan fod pob lleoliad yn arbennig a gwahanol. Ond os oes rhaid i fi ddewis, fyswn i’n deud mai un o fy hoff lefydd yw’r gors yn un o’r caeau o’r enw Pen y Graig. Mae’r gors yn arbennig o brydferth ym mis Medi pan mae Llafn y Bladur (Bog Asphodel) oren yn tyfu. Mae’r planhigion sy’n tyfu yn y gors ac yn y cae o’i amgylch, a’r blodau gwyllt sy’n tyfu ar dir y fferm yn fy nghysylltu gyda fy nghartref, gan fod fy Nhad wedi dysgu’r enwau i mi. Yr atgofion a’r lliwiau hudolus sydd o’m hamgylch wrth i mi grwydro’r cae yw’r pethau sydd yn bendant yn gwneud Pen y Graig yn un o fy hoff lefydd o gwmpas fy nghartref.
Fy hoff ystafell yn y tŷ yw’r ystafell haul, neu’r “sun room”, fel de’n ni’n ei galw. Dyma le dw i’n darlunio fy nghrochenwaith ac yn hel syniadau creadigol. Yn yr ystafell yma, mae fy mhlanhigion tŷ hefyd. Dw i’n hoff iawn o dyfu planhigion yn y tŷ a dod a darn o natur tu fewn i’r cartref. Mae yna awyrgylch ymlaciol yn yr ystafell hon ac mae’n fendigedig yn y bore pan mae’r haul yn tywynnu drwy’r ffenestri.
Fy hoff le yn y bore i gael paned o de yw’r soffa felen sy’n edrych allan dros y dirwedd ar draws yr afon Corris i ochr arall y dyffryn.
Mae fy nghartref yn llawn eitemau sy’n bwysig ac yn arbennig i fi, ond un eitem sydd fwyaf arbennig yw’r bocs pren cerfiedig sy’n llawn o flodau sydd wedi sychu. Dw i wedi bod yn casglu’r blodau yma ers blynyddoedd, ac yna yn eu gwasgu a’u sychu. Roedden nhw i gyd wedi tyfu ar dir y fferm. Wnes i gasglu’r rhan fwyaf o’r blodau yma pan oeddwn i’n cerdded gyda fy nhad, a dw i’n hoffi gweld pa blanhigion sy’n tyfu yn ôl bob blwyddyn o gwmpas y lle.
Dw i hefyd yn hoff iawn o’r plac ar wal y tŷ. Mae’n un o’r eitemau mwyaf diddorol am y tŷ. Mae’r llythrennau ‘T. I. [&] A. P. 1701’ wedi’u crafu i mewn i’r garreg – ond mae ’na enw arall sydd wedi cael ei grafu allan. Beth oedd enwau’r bobl? Oedden nhw wedi adeiladu’r tŷ yn wreiddiol? Pam bod yr enw yma wedi cael ei grafu i ffwrdd? Mae gan y tŷ gyfrinachau diddorol sy’n ysgogi’r dychymyg.
I fi, mae cartref yn rhywle lle mae hedyn creadigrwydd ar ei orau a rhywle lle mae’n cael mynegiant. Tŷ sy’n llawn bob math o grefftau a gwaith celf ac awyrgylch tawel. Rhywle agos at natur a fy nheulu – dw i’n teimlo’n ffodus iawn i fyw mewn lle mor ysbrydol, sy’n codi’r galon.