Roedd gan y gwirod Absinthe enw drwg nôl yn Oes Fictoria – cafodd ei wahardd yn Ffrainc yn 1915 oherwydd ei effaith niweidiol honedig – ond mae wedi mwynhau adferiad dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi ennill statws cwlt erbyn hyn.

A’r wythnos hon fe enillodd Absinthe organig Distyllfa Dà Mhìle yn Llandysul, Ceredigion wobr arbennig yng ngwobrau’r Great Taste Golden Forks 2024 mewn seremoni yn Llundain.

“Mae’r Golden Forks fel Oscars y diwydiant bwyd felly mae wedi bod yn sypreis hyfryd,” meddai John-James, un o gyfarwyddwyr Distyllfa Dà Mhìle, a mab y sylfaenydd John Savage-Onstwedder.

John-James, ar y chwith, a’r distyllwyr Ioan a Steve, gyda’r wobr Great Taste

“Mae degau o filoedd o gwmnïau yn cymryd rhan yn y gwobrau – dw i’n credu bod tua 14,000 wedi gwneud cais eleni. Os ydach chi wedi ennill tair seren yng ngwobrau Great Taste dach chi’n cael eich cynnwys yn awtomatig ar gyfer y Golden Forks. Roedden ni wedi ennill tair seren am ein Absinthe nol ym mis Gorffennaf ac wrth ein boddau gyda hynny. Mi wnaethon ni ennill Gwobr Treftadaeth Nigel Barden [y darlledwr bwyd a diod] – mae’r wobr yma yn cael ei rhoi i’r cynnyrch mae e wedi’i fwynhau fwyaf ac yn cael ei ddewis gan Nigel Barden ei hun. Roedden ni wedi synnu i ennill y wobr,” meddai.

Mae Distyllfa Dà Mhìle eisoes wedi gwneud enw iddyn nhw eu hunain gyda’u wisgi Cymreig brag sengl, jin gwymon a rỳm ond syniad ei Dad oedd dechrau gwneud Absinthe.

Absinthe Distyllfa Dà Mhìle sydd wedi ennill Gwobr Treftadaeth Nigel Barden yng ngwobrau’r Golden Forks yn Llundain

“Roedd fy Nhad wastad wedi bod â diddordeb mewn Absinthe a’r hanes tu ôl iddo felly tua 10 mlynedd yn ôl wnaethon ni ddechrau gweithio efo cwpl o brifysgolion yn Ffrainc er mwyn cael ychydig o’r hanes ac rydan ni wedi bod yn gweithio arno ers nifer o flynyddoedd. Wnaethon ni ryddhau’r batch cyntaf y llynedd. Mae’n rhywbeth rydan ni’n angerddol amdano,” eglura John-James.

Ond pam fod Absinthe wedi cael enw drwg dros y blynyddoedd?

“Mae’n dipyn o gamddealltwriaeth. Cafodd Absinthe ei wahardd yn Ffrainc ac roedd pobol yn meddwl ei fod wedi’i wahardd ymhobman ond dyw hynny ddim yn wir. Roedd yn ddiod boblogaidd iawn yn Ffrainc yn ystod Oes Fictoria ac oherwydd bod cymaint o alw am Absinthe, dechreuodd rhai cynhyrchwyr ddefnyddio blasau a lliw gwyrdd oedd yn wenwynig. Roedd rhai pobol wedi marw ond nid yr Absinthe oedd ar fai, ond y lliw cemegol –  o ganlyniad cafodd Absinthe ei wahardd yn Ffrainc o’r cyfnod yna.”

I dawelu’ch meddwl, mae Distyllfa Dà Mhìle yn defnyddio dim ond cynhwysion naturiol ac organig yn yr Absinthe gan gynnwys perlysiau sy’n rhoi’r lliw gwyrdd i’r gwirod.

“Mae’n wirod cryf – tua 67-69% ABV – ond, yn draddodiadol, byddech chi’n cymysgu un rhan o Absinthe gyda phedwar rhan o ddŵr oer ac ychwanegu ychydig o siwgr, felly unwaith mae’n cael ei gymysgu gyda dŵr dyw e ddim mor gryf. Mae wedi cael ychydig o statws cwlt yn ddiweddar ac yn cael ei ddefnyddio mewn coctels. Mae fy Nhad yn hoffi ei yfed gyda dŵr cnau coco neu gallwch chi ei gymysgu efo lemonêd.”

Black Mountains Smokery oedd wedi cipio’r wobr dros Gymru yn y seremoni yn Llundain nos Fawrth (10 Medi).