Erbyn i’r hyn o lith weld golau dydd, bydda i yn Berlin. Gyda llety ar lan afon Spree, rownd y gongl i’r darn hiraf o’r Mur sy’n dal i sefyll yn llawn graffiti, dw i’n edrych ymlaen at borthi fy niddordeb yn hanes yr hen Ddwyrain. Tydi pencadlys syber y Stasi ddim yn bell, a bydda i’n pasio fan’no wrth fynd i frecwasta ar sgwâr fwya’r wlad yn Alexanderplatz, lle saif y tŵr teledu eiconig o ddyddiau’r DDR. Mi gerddaf hyd ynys yr amgueddfeydd, heibio cadeirlan Berliner Dom o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg am y senedd, cofeb fodern yr Holocost, a phorth Brandenburg. Ac mae’n bosibl taw’r dalaith o’r un enw sy’n amgylchynu’r brifddinas ac sy’n gartref i 2.5m o bobol fydd y cur pen nesaf i Berlin a Brwsel. Achos mae’r ffasgwyr ar gerdded yn Ewrop eto.
Bydd etholiadau ffederal Brandenburg yn cael eu cynnal ar Fedi 22, ac mae llwyddiannau pellach yn bosibl i’r Alternative für Deutschland neu’r AfD – plaid gafodd ei labelu’n ‘sefydliad eithafol’ gan wasanaeth diogelwch yr Almaen. Daethon nhw’n ail yn nhalaith Sacsoni gyda 31% o’r bleidlais, ac i’r brig yn Thuringia gyda 33% o’r fôts ddechrau Medi.
Yn Thuringia y daeth Hitler i rym am y tro cyntaf ym 1930.
Ydy, mae’n codi braw. Ond fel yr esbonia Emily Maitlis ar bodlediad annibynnol rhagorol The News Agents, dim ond 7% o boblogaeth yr Almaen yw’r ddau ranbarth uchod, felly nid “Nazi takekover comeback” yw hyn.
Ond mae posteri’r AfD o 2017 â’r geiriau ‘Burkas? Wir Steh’n Auf Bikinis’ (Byrcas? Ma’n well ’da ni ficinis) yn dweud y cyfan, heb sôn am eu gwrthwynebiad i bolisïau gwyrdd, ceiswyr lloches a hawliau hoywon ymhlith eraill. Ac nid plaid y canol oed blin yn unig ydyn nhw, gan fod 37% o bobol ifanc 18-24 oed wedi pleidleisio dros yr AfD yn Thuringia. Y ddadl economaidd sy’n denu llawer, medd Lewis Goodall o’r un podlediad, gyda’r blaid pro-Rwsia yn galw am stopio hwrjio arian ac arfau i Wcráin a dechrau trafodaethau heddwch â Putin. I aros efo’r economi, mae penderfyniad diweddar cwmni enfawr VW i gau dwy ffatri geir yn yr Almaen am y tro cyntaf erioed yn sicr o roi rhagor o bwysau ar y Canghellor Olaf Scholz – daeth ei glymblaid yntau’n bumed yn y ddwy dalaith.
Mae’n batrwm cyffredin ar hyd a lled ein cyfandir, wrth i’r tir canol cymedrol ddymchwel fel dominos. Heddiw, mae pleidiau asgell dde caled yn llywodraethu yn chwech o wledydd yr Undeb Ewropeaidd – yr Eidal, y Ffindir, Croatia, Czechia, Hwngari, Slofacia – ac yn rhannu grym yn Sweden a’r Iseldiroedd. Plaid PVV y gwrth-Islamydd rhonc Geert Wilders, oedd enillydd clir etholiadau Nederland y llynedd.
Beth am Gymru?
Dylai Eluned Morgan boeni hefyd. Daeth ymgeisydd Reform UK o fewn 1,500 o bleidleisiau i ddwyn sedd Llanelli oddi ar Nia Griffith simsan yn San Steffan, ac mae ganddyn nhw dri chynghorydd newydd yn Nhorfaen; y cenedlaetholwyr Seisnig yn targedu’r ardaloedd cyn-ddiwydiannol ddadrithiedig, felly, a phobol fydd yn stryglo i dalu biliau tanwydd eto’r gaeaf hwn yn cael eu swyno gan filiwnyddion fel Nigel Farage a Richard Tice. Mae’n sefyllfa honco bost, ond mae’r gwynt yn hwyliau’r blaid ar gyfer etholiad Cymru yn 2026. Meddai Kirsty “I was educated at Llanfyllin High School, where I gained a basic knowledge of the beautiful Welsh language” Walmsley, rheolwr ymgyrchoedd Reform UK yng Nghymru, wrth bapur The i yn dilyn etholiad mis Gorffennaf:
“All of the country is fertile ground for us… If you look across the board, we got a higher percentage of the votes in Wales than we did in other parts of the UK.“
Cwta unarddeg mlynedd yn ôl y cafodd yr AfD ei sefydlu. Mae’r larwm yn canu’n groch o’r Almaen i Gymru.