Steddwch.

Maddeued fy niffyg cwrteisi: Eisteddwch, os gwelwch yn dda.

Steddwch, nid oherwydd bod gen i rywbeth syfrdanol o fawr i’w ddweud heddiw – na, steddwch gan mai eistedd yw testun y golofn.

Mae ein byd yn drwch o gadeiriau a seddau. Petasech yn ddiacon – neu’n flaenor – mi fuasech yn y ‘Sedd Fawr’, neu am wn i, gan nad ydwyf gyfarwydd â dirgelion yr Hen Gorff, y ‘Sedd Flaen’ i’r Blaenor. Nid oes diben bellach, am wn i, i’r seddau blaen mewn capel, gan fod y ffyddloniaid yn mynnu eistedd yn y cefn.

Petasech yn berson pwyllgor, basech yn gyn-gadeirydd, yn gadeirydd, neu is-gadeirydd, neu gadeirydd etholedig, neu efallai’n gadeirydd anrhydeddus.

Sedd Esgob yw Esgobaeth. Mae’r Pab yn llefaru Ex Cathedra. Ewch i Brifysgol, llanw Cadair y mae Athro. Buom, bawb ohonom, rywbryd neu’i gilydd, yn eistedd wrth draed athro, guru neu bregethwr. Mae gennym Eisteddfod, a Gor-sedd ac ‘Eistedded y Bardd yn hedd yr eisteddfod’. A oes heddwch?

Oes, gormod! Buom rhy hir ar ein heistedd gan fwynhau’r moeth ar esmwythyd: heddwch i dewhau. Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion, meddai’r proffwyd (Amos 6:1). ‘Eistedd’ yw gwynfyd gormod ohonom y dyddiau hyn, yn bobol Seion neu beidio.

Cystal cyfaddef fy mod i’n gweld y rheini sydd yn cwyno fod pobol grefyddol yn eistedd yn rhy gyffyrddus ar seddau caled y capel yn edrych yn gyffyrddus ddigon eu hunain ar soffa John Lewis ei seciwlariaeth. Ar y soffa? Wrth gwrs, yn amlwg i gyfaill a chymydog gael gweld y symbol hwnnw mai Cymry cŵl digrefydd ydym: y garthen Melin Tregwynt.

Crefyddol, lled-grefyddol, ôl-grefyddol, gwrth-grefyddol, neu wedi cael twtsh rhy dwym o grefydd fedrwn ni ddim newid y byd – newid dim byd, a dweud y gwir – ar ein heistedd. Buom ar ein penolau, un ac oll, yn rhy hir. Bellach, mae angen sefyll a threulio tipyn ar ledr ein sgidiau. Safa; safwn gyfysgwydd.