Mae artist yn cael modd i fyw yn troi broc môr yn gadwyni a breichledi llachar…

Mae gemydd o Sir Benfro’n treulio oriau yn casglu darnau o blastig oddi ar y traeth i’w troi’n emwaith.

Wedi stormydd neu lanw uchel, mae Bae Gorllewin Angl yn llawn darnau o blastig lliwgar, wedi’u golchi yno o’r môr.

Bryd hynny, mae Bronwen Gwillim yn cael helfa dda ac yn gwneud ei rhan dros yr amgylchedd.