Mae’n rhaid i’r Ceidwadwyr Cymreig gefnogi diddymu’r Senedd – fel arall, does ganddyn nhw “bron ddim byd i’w ddweud”, yn ôl Dirprwy Cadeirydd Ceidwadwyr de-ddwyrain Cymru

Wrth siarad â golwg360, dywed Huw Davies fod rhaid i’w blaid gefnogi diddymu’r Senedd er mwyn osgoi bod yn “amherthnasol”.

Daw ei sylwadau ar ôl i Andrew RT Davies, arweinydd y Grŵp Ceidwadol yn y Senedd, ddechrau’r drafodaeth ar X (Twitter gynt) yr wythnos ddiwethaf.

Er ei fod yn “cyfaddef bod yna rai o fewn y Grŵp Seneddol Ceidwadol fydd yn wrthwynebus” i’r syniad, dywed ei fod yn “argymell” iddyn nhw newid eu meddyliau.

“Ond rwy’n awgrymu wrth yr aelodau yma, os nad ydym yn mabwysiadu rhywbeth fel hyn, fod gennym ni bron ddim byd i’w ddweud yn yr etholiad yn 2026.

“Mae’r system bleidleisio newydd fwy neu lai yn cael gwared ar bleidleisio tactegol, sy’n golygu ei bod yn anodd dadlau bod pleidlais dros blaid arall yn gadael plaid arall i mewn, felly mae pleidlais pawb yn cyfri.

“Felly mae’n rhaid ymladd am bob pleidlais.

“Ac os nad ydyn ni efo’r cynnig mawr yma, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dod yn amherthnasol a bydd Reform yn mynd i’r brig.”

Diddymu’r Senedd

Yn ôl Huw Davies, nid oherwydd y gefnogaeth i ddiddymu’r Senedd yn unig y dylai’r blaid ymgyrchu dros wneud hynny, ond am eu bod nhw “wir yn credu” bod rhaid ei diddymu.

“Yn y bôn, rydym wedi bod yn erbyn datganoli ers nifer o flynyddoedd, ac i ddweud y gwir mae’n naturiol i wrthwynebu datganoli.

“Dydi o ddim o safbwynt yr angen am fantais wleidyddol.

“Mae o’n rywbeth, o edrych yn ôl ar ein hanes, y dylen ni ei gymryd ymlaen gan ein bod ni’r blaid naturiol i’w wneud o.”

Reform ddim am fod yn llais dros diddymu

Dywed Huw Davies ei fod yn deall nad yw Reform yn mynd i sefyll dros bolisi o ddiddymu’r Senedd, a bod gan y Ceidwadwyr gyfle i fwrw’r maen i’r wal o ganlyniad.y

“O be’ dwi’n ei ddeall, dydi Reform UK ddim yn edrych i fod y llais dros ddiddymu’r Senedd yn 2026,” meddai.

“Dw i’n meddwl y bydd hyn yn rhoi cyfle mawr i’r Ceidwadwyr Cymreig i fod y llais hwnnw.

“Byddech yn disgwyl i Reform UK redeg ar y fantell honno – felly mae’n gôl agored i ni fel plaid i ddod y llais unigryw hwnnw.”

Er ei fod yn dweud bod y Ceidwadwyr mewn perygl o fod yn “amherthnasol” yn etholiadol drwy beidio mabwysiadu polisi o ddiddymu, ychwanega nad yw’n “fater pleidiol” iddo.

“Mae hyn yn ymwneud â dyfodol Cymru a’r Deyrnas Unedig,” meddai.

“Dw i’n gweld datganoli fel rhywbeth sy’n erydu undod y wlad, a dwi’n credu ei fod er lles y dyfodol pell i ddechrau’r sgwrs i ddiddymu’r Senedd.”