Ers diwedd mis diwethaf, mae Miss Cymru yn darparu gofal iechyd hanfodol i drigolion Wganda.

Ar Orffennaf 28, aeth Millie-Mae Adams allan i’r wlad yn Affrica, lle mae 42.1% o’r boblogaeth yn byw bywyd difreintiedig, yn ôl adroddiad mynegai tlodi amlddimensiwn cyntaf Wganda ar gyfer 2021.

Teithiodd Millie-Mae Adams i Wganda gyda’r bwriad o ddosbarthu cyfarpar allweddol i ardaloedd tlotaf y wlad.

“Mae’n bwysig archwilio gwahanol ddiwylliannau a chynnig help llaw i’r rhai sydd ei angen fwyaf,” meddai wrth golwg360.

Helpu’r gymuned “yn rhad ac am ddim”

Ochr yn ochr â’i rôl fel Miss Cymru, mae Millie-Mae Adams yn astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerwysg.

Yn ystod ei thaith, mae hi’n rhoi ei chefndir meddygol ar waith wrth gynnal profion HIV a malaria ymhlith trigolion trefi tlota’r wlad.

Dywed ei bod hi’n awyddus i fynd ar y trip er mwyn defnyddio’r sgiliau mae hi wedi’u meithrin yn yr ysgol feddygol yn y gymuned yn rhad ac am ddim i’r rhai sy’n methu cael mynediad at wasanaethau meddygol eraill.

Mae hi hefyd wedi bod i Ganolfan Ryngwladol a Ffrwythlondeb Ysbyty Menywod Wganda, gan roi swm o arian i’r ysbyty fydd yn helpu 111 o fenywod i fagu teulu ar ffurf triniaethau IVF a ffrwythlondeb.

Yn ogystal, fe wnaeth Millie-Mae Adams gynnal sesiynau ‘grymuso menywod’, a rhoddodd hi beiriant gwnïo i’r menywod hyn.

Bydd hyn yn caniatáu i’r menywod gael annibyniaeth ariannol, a bydd modd dysgu’r sgiliau newydd i bobol eraill.

“Mae’r daith hon wedi bod o fudd i mi ym mhob ffordd,” meddai wedyn.

“Rwy’n credu y byddaf yn feddyg gwell trwy’r profiadau hyn.”

Mae hi’n awyddus i fynd ar daith debyg i Wganda eto yn y dyfodol, ond am y tro mae hi’n canolbwyntio ar ddechrau ei thrydedd flwyddyn yn yr ysgol feddygol a pharatoi i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth ‘Miss World’.