Prynwch yn lleol! Dyna’r gri gan gynhyrchwyr bwyd a diod yn Nhalog, Sir Gaerfyrddin wrth iddyn nhw gynnal marchnad arbennig i ddathlu cynnyrch lleol yr ardal yr wythnos hon.

Bydd Marchnad Nos Talog yn cael ei chynnal nos Iau, Awst 22 rhwng 5.30-9.30yh.

Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu ein cynnyrch lleol gwych mewn noson hwyliog iawn,” meddai Bethan Morgan o gwmni Moch Coch.

“Mae bwyd wedi’i wneud â llaw yn lleol nid yn unig yn dda i’r amgylchedd ond yn wych i’w flasu hefyd ac mae llawer o gynhyrchwyr Gwobrau Bwyd Da yma ar ein stepen drws.

Bydd mochyn rhost ar gael ym Marchnad Nos Talog

“Bydd mochyn rhost ar gael, Caws Cenarth, salad gan Liliwen Herbs a siytni Jar’D ynghyd â bar Jin Talog a phwdinau blasus.

Caws Teifi

“Bydd digwyddiad paru caws a gwin hefyd rhwng  6-7.30yh, pan fydd Caws Teifi a gwinllan Velfrey Vinyard yn cynnig profiad blasu caws a gwin lleol unigryw. Byddan nhw’n paru pedwar gwin artisan â phedwar caws llaeth amrwd, i gyd wedi’u cynhyrchu o fewn radiws o 20 milltir o Talog,” ychwanegodd.

Gwin o Winllan Velfrey yn Sir Benfro

Mae tocynnau Caws a Gwin yn £10 ac yn cynnwys taleb £5 i’w wario ar gaws neu win ar y noson.

Mae Marchnad Ffermwyr Talog yn farchnad dymhorol sy’n cael ei chynnal bedair gwaith y flwyddyn yn y neuadd bentref lleol. Mae digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn gan gynnwys Marchnad Nos Talog.

Bydd bar Jin Talog ym Marchnad Nos Talog

www.talogfarmersmarket.wales