Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion bwyd rhai o wynebau cyfarwydd Cymru, a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Anthony Rees, sy’n rhedeg cwmni Jin Talog gyda’i bartner David Thomas, sydd wedi bod yn rhannu ei atgofion bwyd yr wythnos hon. Mae’n byw yn hen ffermdy Rhyd y Garreg Ddu, yn Nhalog, Caerfyrddin…


Doedd bwyd ddim yn arbennig o bwysig i fi wrth dyfu lan ar fferm laeth draddodiadol Gymreig ac roedd Dad yn fwytäwr plaen iawn, iawn. Roedd hyn yn siwtio Mam oherwydd dw i ddim yn credu roedd hi’n mwynhau coginio fawr o gwbl.  Felly tra roedden ni’n cael ciniawau rhost, cacennau, pice ar y maen – y pethau arferol – doedden ni byth yn cael unrhyw beth allan o’r cyffredin. Cymaint felly, fel plentyn, doeddwn i ddim yn hoff iawn o fwyd a doeddwn i ddim yn bwyta cinio ysgol ond yn mynd â brechdanau yn lle. Nid tan i fi fynd i’r Brifysgol yn Aberystwyth, pan roedd rhaid dechrau gofalu amdanaf fy hun, wnes i ddarganfod y byd coginio. O hynny ymlaen, dw i’n meddwl bod yr angerdd wedi cynyddu, mae popeth – o gynllunio, cyrchu, paratoi ac, wrth gwrs, bwyta – yn bleser ac yn hynod o bwysig i mi.

Dw i wrth fy modd â blasau mawr, mawr. Dyna pam sefydlon ni Jin Talog – yn y bôn i greu jin newydd â blas cryf. O ran pryd o fwyd, pan dw i eisiau cysur, dwi’n troi at chili. Dw i eisiau sbeis a dw i eisiau gwres, felly mae fy nghoginio yn tueddu i gael ei ddominyddu gan fwydydd Asia, yn enwedig De-ddwyrain Asia, India ac efallai Mecsico. Dw i’n gogydd cartref angerddol a ni’n bwyta’r bwydydd hyn sawl gwaith yr wythnos.

Mae Anthony Rees yn mwynhau bwyd Asiaidd

Dw i wrth fy modd gyda bwyd stryd o Asia. Felly mae’n debyg mai fy mhryd delfrydol i fyddai dewis o fwyd stryd sbeislyd a chael fy synnu gan y blasau – ac weithiau ddim hyd yn oed yn gwybod beth dw i’n ei fwyta!

Mae natur dymhorol yn hynod bwysig i’r ffordd dw i’n coginio gartref. Dw i’n edrych ymlaen at weld garlleg gwyllt am y tro cyntaf ym mis Ebrill ac yn ymhyfrydu yn y tymor byr sydd gan hynny. Symud ymlaen at datws cyntaf Sir Benfro neu’r riwbob yn dod trwodd, yna mefus yn yr haf, madarch gwyllt yn yr hydref. Dw i’n fforio ac ry’n ni’n magu ein cig oen a’n porc ein hunain. Ry’n ni’n prynu cyw iâr a chig eidion a physgod yn lleol ac yn ceisio bod yn organig a bwyta’n iach. Ry’n ni’n ceisio osgoi bwydydd sydd wedi’u prosesu’n helaeth – dy’n ni ddim bob amser yn llwyddiannus, ond yn trio. Lle bynnag ‘dyn ni’n gallu ry’n ni’n defnyddio cynhyrchwyr lleol ac mae archfarchnadoedd wastad yn ddewis olaf i ni.

Mae Anthony yn hoffi coginio ar gyfer pobl eraill

Mae coginio i bobl eraill yn esgus gwych i fynd trwy fy nghasgliad o dros 400 o lyfrau coginio – dw i’n defnyddio nhw ar gyfer syniadau ac arweiniad yn hytrach na rhywbeth i’w dilyn yn slafaidd. Felly dyna sy’n dylanwadu ar y fwydlen pan fydd pobl yn dod am swper. Dw i’n mwynhau’r her o goginio ar gyfer ffrindiau llysieuol neu fegan yn arbennig gan fod hynny’n gofyn am ychydig o feddwl o ddifri i gael y blasau mwyaf posib i’r bwyd.  Felly mae coginio i bobl yn bleser, weithiau yn straen ond, fel arfer, yn bleser.

Mae rhai o fy hoff ryseitiau ar hyn o bryd gan Nigel Slater, Diana Henry neu Anna Jones. Ond fy hoff rysáit ar y funud, sy’n cael ei goginio’n aml, yw pryd syml sydd wedi’i ysbrydoli gan Shu Han Lee, a dw i wedi’i addasu.

Dyma’r rysáit ar gyfer dau berson…

Ffriwch 250 gram o borc/cyw iâr neu friwgig o ansawdd da nes iddo ddechrau carameleiddio ychydig. Draeniwch unrhyw fraster. Tynnwch o’r badell a’i roi i un ochr.

Rhowch winwnsyn wedi’i dorri’n fân iawn a ffenigl i’r badell a ffrio’n ysgafn gydag ychydig o olew nes ei fod yn euraidd ac yn feddal. Ychwanegwch ddarn o sinsir wedi’i gratio’n fân a thri neu bedwar ewin o arlleg.

Wedyn, ychwanegwch dri neu bedwar tsili Thai poeth wedi’u torri’n fân, mwy os meiddiwch, ynghyd â phum deilen makrut wedi’u sleisio’n fân iawn. Mae’r rhain yn bwysig iawn oherwydd dyma sy’n rhoi blas i’r pryd. Ffriwch am dri neu bedwar munud arall nes bod y garlleg a’r tsili wedi’u coginio, ac yna rhowch y cig yn ôl i mewn.

Cymysgwch dair llwy fwrdd o saws wystrys, a llwy fwrdd neu ddwy o saws pysgod Thai i ychwanegu blas.

Ry’n ni’n trio osgoi reis ac felly’n ei weini gyda blodfresych wedi’i dorri’n fân neu brocoli wedi’i rostio.  Ewch â’ch bowlen i rywle tawel i fwynhau!