Mae pryderon wedi’u codi ynghylch nifer cynyddol o finiau sy’n gorlifo mewn mannau cerdded poblogaidd.
Fis Mai, dywedodd yr RSPCA yng Nghymru eu bod nhw wedi derbyn dros 600 o adroddiadau am anifeiliaid wedi’u brifo neu wedi marw’n sgil sbwriel dros y pedair blynedd ddiwethaf.
Un o’r llefydd y mae biniau’n gorlifo’n broblem yw Fforest Fawr yng Nghaerdydd, ardal sy’n boblogaidd iawn ymysg cerddwyr.
Ynghyd ag “edrych yn ffiaidd”, mae’n gwneud hi “gymaint anoddach” cerdded y cŵn, medd Lesley Lloyd, oedd allan yn cerdded ei chŵn pan siaradodd â golwg360.
Dywed Lesley Lloyd bod yna alw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o finiau mewn mannau cerdded cyhoeddus, ac i gymryd mwy o ofal wrth gynnal y biniau sydd yno’n barod.
Ychwanega Marc Thomas, cerddwr rheolaidd yn yr ardal, ei bod hi’n “annerbyniol i gael llanast mor wael â hyn”.
“Does dim esgusodion drosto,” meddai wrth golwg360.
Esbonia bod yr ardal yn boblogaidd ymysg plant, ond bod y sbwriel yn “effeithio ar harddwch y llwybr”.
“Mae’n siom fawr ac mae’n rhaid dangos esiampl well.”
‘Creu byd gwell i bob anifail’
Mae yna bryderon mawr ynglŷn ag effaith y sbwriel ar anifeiliaid gwyllt ledled Cymru, ynghyd â’r effaith ar ddelwedd yr ardaloedd.
Ymysg mamaliaid, llwynogod, draenogod a cheirw sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan sbwriel, yn ôl adroddiadau’r RSPCA. Ymysg adar gwyllt, caiff elyrch, colomennod a gwylanod eu heffeithio’n bennaf.
Yn flynyddol, mae’r RSPCA yn delio gyda nifer o ddigwyddiadau all gael eu hosgoi o ganlyniad i sbwriel.
“Yn anffodus, i bob anifail rydyn ni’n gallu helpu mae’n debyg bod yna lawer o rai eraill sy’n mynd heb eu gweld, heb eu hadrodd ac a allai hyd yn oed golli eu bywydau,” meddai Carrie Stones, rheolwr ymgyrch gwrth-sbwriela RSPCA.
Heddiw, mae RSPCA Cymru yn annog pawb i helpu i “greu byd gwell i bob anifail”.
Os oes gennych unrhyw sbwriel a bod y bin cyhoeddus yn llawn, maen nhw’n dweud wrth bobol fynd â’u sbwriel adref gyda nhw i’w daflu.
‘Monitro drwy arolygon blynyddol’
Dywed Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, mai’r uchelgais “yw sicrhau Cymru ddi-sbwriel”.
“Mae tueddiadau sbwriel yn cael eu monitro drwy arolygon blynyddol a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol.”
Dengys adroddiadau presennol bod lefelau sbwriel wedi bod yn gymharol sefydlog, ond nad yw hyn yn cyd-fynd â chanfyddiadau’r cyhoedd yn aml, meddai.
Mae Huw Irranca-Davies wedi datgan bod gwaith ar y gweill i ystyried systemau monitro newydd a fyddai’n golygu bod tystiolaeth fanylach ar sbwriel yn cael ei chasglu.
Byddai’r dystiolaeth yna’n helpu i lywio ymyriadau polisi yn y dyfodol.