Mae platfform X yn “berygl mawr i ddemocratiaeth” dan Elon Musk, medd cyn-Gwnsler Cyffredinol Cymru.
Dywed Mick Antoniw, sy’n Aelod o’r Senedd Llafur dros Bontypridd, ei bod hi’n “debygol” y byddai wedi gadael y platfform oni bai ei fod yn ei ddefnyddio i ymgysylltu â’r sefyllfa yn Wcráin.
Mae X, oedd yn cael ei adnabod fel Twitter, wedi bod dan sylw am fod yn blatfform i leisiau asgell dde, gyda nifer yn dweud ei fod yn rhannol gyfrifol am ledaenu gwybodaeth ffug am grefydd ymosodwr Southport wnaeth drywanu tri phlentyn ddiwedd mis Gorffennaf.
Mae maer Llafur Lerpwl wedi dweud y dylai gwleidyddion a’r cyhoedd ystyried gadael X, wedi i derfysgoedd ledaenu yno ac mewn rhannau eraill o Loegr a Gogledd Iwerddon.
Dywedodd Steve Rotheram, sy’n cynrychioli ardal Southport, yr wythnos ddiwethaf bod gwybodaeth ffug ar y platfform wedi cyfrannu at y terfysgoedd gan yr adain dde eithafol.
“Mae o rŵan mewn llawer o ffyrdd wedi dod yn fwy o helynt na mae o werth,” meddai Mick Antoniw, wrth golwg360.
‘Perygl mawr’
Fe wnaeth Lee Waters, fu’n Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn Llywodraeth Cymru tan eleni, adael y platfform gan ddweud ei fod yn derbyn “pentwr o sylwadau cas” gyda phob trydariad.
Dywed Mick Antoniw, wrth siarad yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol, ei fod ond yn defnyddio X fel modd o ymgysylltu a’r rhyfel yn Wcráin oherwydd cysylltiadau teulu sydd yn byw yno, a’i fod yn dod yn “raddol fwyfwy amherthnasol”.
“Mae ei bwrpas o fod yn feddalwedd i gael mynediad at wybodaeth yn raddol wedi cael ei chwalu,” meddai.
“O ganlyniad i’r agweddau gwleidyddol ar y platfform, a nawr o ganlyniad i rywun fel Elon Musk, mae’r wefan nawr yn cael ei defnyddio fel dyfais er lles yr asgell dde.
“Ac mae’r ffaith eu bod nhw nawr yn hyrwyddo’r agenda asgell dde drwy’r algorithm, a chyfweliad [Elon Musk] efo Trump [ar X ddydd Mawrth], yn dangos ei fod yn rhan o’r agenda asgell dde yna.
“Mae hyn yn berygl mawr i ddemocratiaeth.
“Mae angen go iawn am fframwaith reoleiddio sy’n datgan safonau ar-lein.
“Dw i’n meddwl bod Elon Musk wedi mynd tu hwnt i’r safonau hyn, ac, yn y bôn, efallai y bydd yn dod â diwedd i X.”
Mae disgwyl y bydd y Bil Diogelwch Ar-lein yn derbyn sylw yn Senedd San Steffan pan fyddan nhw’n dychwelyd ym mis Medi.