Mae Trafnidiaeth Cymru’n bwriadu cyflwyno gwasanaethau trên arbennig ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd eleni.

Mae disgwyl y bydd 20,000 yn cystadlu yn y ras ddydd Sul, Hydref 6.

Bydd miloedd yn rhagor o bobol yn ymweld â Chaerdydd dros y penwythnos er mwyn cefnogi’r rhedwyr.

Yn y gorffennol, fe fu gofidion am gapasiti traffig a llety’r brifddinas yn ystod y digwyddiad, yn enwedig am fod angen cau rhai o heolydd mwya’r brifddinas er mwyn cynnal y ras.

Yn ogystal, am fod y digwyddiad yn dueddol o gael ei chynnal ar ddydd Sul, mae opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus wedi bod yn brin hefyd.

O ganlyniad, mae rhedwyr ac ymwelwyr wedi cael trafferth darganfod llefydd i aros neu i barcio.

Gan ei bod hi’n bwysig i redwyr sicrhau eu bod nhw ar y llinell gychwyn ar yr amser iawn, mae hyn wedi achosi trafferthion dros y blynyddoedd blaenorol.

Trefniadau newydd

Ond mae Trafnidiaeth Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw’n rhedeg sawl gwasanaeth trên yn gynnar ar fore’r ras o orsafoedd allweddol eleni.

Dylai hyn leddfu trafferthion y rheiny sy’n cystadlu a’r rheiny sy’n dod i wylio am gyrraedd mewn da bryd, medden nhw.

Bydd y gwasanaethau ychwanegol yn darparu trafnidiaeth i Gaerdydd o Abertawe, Henffordd, Maesteg, Caerloyw, Glyn Ebwy, Ynys y Barri, Penarth, Radur a Rhymni.

Bydd y rhain yn rhedeg rhwng 7:55yb a 9:50yb, yn ddibynnol ar gyrchfannau penodol, a byddan nhw’n cludo teithwyr i orsaf Caerdydd Canolog, ddeuddeg munud o fan cychwyn y ras ger Castell Caerdydd.

Bydd y ras yn dechrau am 10yb.

Yn ogystal, am fod gwaith peirianyddol yn digwydd rhwng Treherbert, Aberdâr, Merthyr a Radur, bydd Trafnidaeth Cymru’n rhedeg bysiau ychwanegol o’r gorsafoedd hyn, er mwyn sicrhau bod trafnidiaeth ar gael i bawb sy’n dymuno.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil trafodaethau am gytundebau newydd gyda chriwiau’r trenau am weithio ar foreau Sul.

Yn ôl Georgina Wills, Rheolwr Cyflenwi Cwsmeriaid a Chynllunio Digwyddiadau Trafnidiaeth Cymru, roedd angen i’r cwmni trenau weithio’n agos gyda’r trefnwyr a’u partneriaid yn Network Rail a GWR er mwyn sicrhau y byddai’r gwasanaethau’n cael eu darparu.

“Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i bobl ddod i mewn ar amser ar gyfer y ras felly rydym wrth ein bodd ein bod wedi rhoi’r cynllun hwn ar waith,” meddai.

“Mae dal y trên yn golygu eich bod yn cyrraedd canol Caerdydd ac mae’n tynnu’r straen i ffwrdd o geisio dod o hyd i le parcio neu drefnu lifft.”

Fodd bynnag, mae trefnwyr y ras, yn ogystal â Thrafnidiaeth Cymru, yn rhybuddio y dylai unrhyw un sy’n bwriadu ymweld â’r brifddinas ar gyfer y ras baratoi eu trafnidiaeth ymlaen llaw, a gwirio manylion eu taith, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw beth yn mynd o’i le.