Mae’n debygol na fydd Aaron Ramsey, capten tîm pêl-droed Cymru, ar gael am weddill eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd, yn ôl adroddiadau.

Bydd y chwaraewr canol cae allan am o leiaf ddeufis ag anaf i linyn y gâr, ar ôl cael ei anafu wedi iddo fe ddod i’r cae yn eilydd yn y fuddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Montenegro ddechrau’r mis.

Doedd e ddim ar gael i Gaerdydd i herio Derby yr wythnos ddiwethaf, ac mae’n bosib iawn na fydd e ar gael eto tan o leiaf fis Tachwedd.

Yn ôl Erol Bulut, rheolwr yr Adar Gleision, mae disgwyl iddo fe gael sgan ymhen rhai wythnosau er mwyn darganfod pa mor ddifrifol yw’r anaf, ond mae’n rhagweld y gallai gymryd rhwng wyth a deg wythnos i wella.