Mae cwmni Tesco wedi cyhoeddi bod 1,400 o swyddi yn y fantol yn dilyn y penderfyniad i newid rolau staff sy’n gweithio dros nos mewn nifer o’u harchfarchnadoedd a gorsafoedd petrol.
Daw hyn ar ôl i Tesco gyhoeddi ddydd Llun (31 Ionawr) eu bod yn bwriadu cau eu cangen o siopau nwyddau rhad Jack’s, gyda saith o’r siopau’n cau’n barhaol a’r chwech arall yn dod yn siopau Tesco.
Fe fydd y newidiadau yma yn golygu bod cyfanswm o tua 1,600 o swyddi yn y fantol.
Dywedodd prif weithredwr Tesco Jason Tarry: “Rydym yn gweithredu mewn marchnad hynod gystadleuol a chyflym, ac mae ein cwsmeriaid yn siopa’n wahanol, yn enwedig ers dechrau’r pandemig.
“Rydym bob amser yn edrych ar sut y gallwn redeg ein busnes mor syml ac effeithlon â phosibl, fel y gallwn ail-fuddsoddi yn y pethau sydd bwysicaf i gwsmeriaid.
“Bydd y newidiadau rydyn ni’n eu cyhoeddi heddiw yn ein helpu ni i wneud hyn.
“Ein blaenoriaeth nawr yw cefnogi ein cydweithwyr yr effeithiwyd arnynt trwy’r newidiadau hyn a, lle bynnag y bo modd, dod o hyd i rolau eraill iddynt yn ein busnes.”