Mae cwest i farwolaeth Ethan Powell, 19 oed o Abertawe, wedi dod i’r casgliad ei fod e wedi marw’n ddamweiniol o ganlyniad i orddôs o gyffuriau.

Arweiniodd ei farwolaeth fis Mai y llynedd at derfysgoedd yn ardal Mayhill y ddinas.

Cafwyd hyd iddo’n anymwybodol yng nghartref ei fam-gu ym marina’r ddinas ar Fai 18.

Wrth gynnal gwylnos i’w gofio ddeuddydd yn ddiweddarach, cafodd ceir eu rhoi ar dân, cartrefi eu difrodi a dioddefodd yr heddlu ymosodiadau.

Bu farw Charmaine, mam Ethan Powell, o ganlyniad i gyffuriau yn 2017, ac mae’r teulu’n dweud nad oedden nhw’n cefnogi ymddygiad y rheiny ym Mayhill.

Roedd Ethan Powell wedi bod yng nghartref ei dad-cu yn gwylio gêm bêl-droed Abertawe ar y teledu y noson cyn iddo farw.

Mae lle i gredu ei fod e’n sobor wrth gyrraedd cartref ei fam-gu Cheryl Rogers am oddeutu 10 o’r gloch y nos ar Fai 17.

Fe wnaeth e ddihuno’r bore wedyn cyn cwympo i’r llawr, a daeth ei fam-gu o hyd iddo ar lawr y lolfa.

Ar ôl cael triniaeth, cafodd ei gludo i Ysbyty Treforys, lle bu farw.

Cyffuriau

Dywedodd yr heddlu wrth y cwest nad oedd marwolaeth Ethan Powell yn un amheus.

Ond mae ei ffôn symudol ar goll o hyd ers ei farwolaeth.

Fe ddechreuodd e gymryd cocên yn 17 neu 18 oed, meddai ei deulu, sy’n dweud ei fod e wedi dechrau colli pwysau.

Byddai hefyd yn ysmygu canabis cyn troi at heroin ac erbyn mis Tachwedd 2020, roedd e’n cael triniaeth methodôn gan ei feddyg ac roedd hynny wedi lleihau ei ddefnydd o gyffuriau.

Er nad oedd ei fam-gu na’i dad-cu yn ymwybodol ei fod e’n cymryd cyffuriau, roedden nhw’n teimlo ryw chwe wythnos cyn ei farwolaeth ei fod e’n edrych yn well ac yn “troi ei fywyd o gwmpas”.

Ond daeth archwiliad post-mortem i’r casgliad fod cocên a methodôn yn ei gorff adeg ei farwolaeth.

Daethon nhw o hyd i’r cyffur spice yn ei gorff hefyd, yn ogystal â lefel isel o’r cyffur codeine.

Daeth y crwner i’r casgliad ei fod e wedi marw o ganlyniad i niwed i’r ymennydd a’r organau oedd wedi’i achosi gan ataliad ar y galon o ganlyniad i gyffuriau.