Roedd dyn sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio Dr Gary Jenkins mewn parc yng Nghaerdydd yn dilyn ymosodiad homoffobig yn mynnu, pan gafodd ei holi gan yr heddlu, nad oedd e yno ar y pryd.

Mae Jason Edwards, 25, wedi’i gyhuddo o lofruddio’r seiciatrydd yn dilyn ymosodiad ym Mharc Bute ar Orffennaf 20 y llynedd.

Cafodd y tad i ddau anafiadau difrifol i’w ben, ac fe fu farw yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd bythefnos yn ddiweddarach ar Awst 5.

Mae Jason Edwards gerbron Llys y Goron Merthyr Tudful, ochr yn ochr â Lee Strickland, 36, a merch 17 oed nad oes modd ei henwi oherwydd ei hoedran.

Yr erlyniad

Yn ôl erlynwyr, homoffobia, trais a bod yn farus oedd y rhesymau am yr ymosodiad, ac roedd y tri diffynnydd wedi bod yn chwilio am ddynion hoyw diniwed oedd yn y parc yn chwilio am ryw i ladrata oddi arnyn nhw.

“Do’n i ddim yn y ff**** parc brwnt hwn,” meddai Jason Edwards wrth yr heddlu pan gafodd ei arestio.

“Felly gwrandewch ar fy ngeiriau nawr, ie, dw i wedi gwrando ar eich geiriau chi, do’n i ddim yno, ie, do’n i ddim yno.

“Ro’n i yn lle fy ffrind, fel dywedais i wrthych chi.”

Pan gafodd ei holi am y parc “brwnt”, fe gwestiynodd pam y byddai dyn heterorywiol “yn cerdded drwy barc hoyw yn y nos”.

Dywedodd fod hynny’n gwneud iddo “deimlo’n anghyfforddus” a’i fod yn “frwnt”.

Deunydd fideo a sain

Cafodd ei holi yn ystod cyfweliad pellach gyda’r heddlu am glip sain oddi ar gamerâu cylch-cyfyng, lle mae modd clywed Gary Jenkins yn gofyn am lonydd.

Ond roedd Jason Edwards yn gwadu ei fod e yn y parc ar y pryd gan ddweud nad oedd e wedi clywed gwaedd gan Gary Jenkins.

Pan gafodd ei holi wedyn a oedd e wedi gorchymyn rhywun arall i sathru ar ei ben, doedd e ddim yn fodlon gwneud sylw i’r cwestiwn hwnnw na sawl cwestiwn arall wedyn.

Clywodd y rheithgor gynnwys datganiad y ferch 17 oed, oedd yn 16 oed ar y pryd, i’r heddlu ar ôl iddi gael ei harestio.

Dywedodd ei bod hi’n yfed yn y parc gyda dau ddyn, ond nad oedd hi wedi gweld Dr Gary Jenkins yn cyrraedd.

Dywedodd ei bod hi wedi cael cais gan y ddau ddyn, ar ôl iddyn nhw daro’r dyn i’r llawr, i ymuno â nhw yn yr ymosodiad, a’i bod hi wedi gwneud hynny “mewn ofn a braw” y byddai hi’n marw pe na bai’n cymryd rhan yn y digwyddiad ac yn ceisio rhedeg i ffwrdd.

Dywedodd fod y ddau ddyn “yn dreisgar iawn” yn ystod yr ymosodiad, a’i bod hi wedi dioddef “trawma” yn sgil yr hyn roedd hi wedi’i weld.

Roedd batri ei ffôn symudol yn fflat, meddai, ac roedd hynny’n ei gwneud hi’n “ddiymadferth” a’i “hunig opsiwn” oedd gwneud yr hyn roedden nhw am iddi ei wneud rhag iddi gael ei hanafu’n ddifrifol neu ei lladd.

Dywedodd ei bod hi wedi ei daro unwaith â’i dwrn, ac wedi ei gicio sawl gwaith fel nad oedd e’n ymosod arni.

Dywedodd wedyn nad oedd hi wedi ei gicio’n galed, bod y ddau ddyn arall wedi rhedeg i ffwrdd a’i bod hi wedi cerdded i dŷ ffrind.

Ychwanegodd nad oedd hi’n credu ei fod e wedi’i anafu’n ddifrifol ac y byddai “rhywun yn ei helpu”, gan ychwanegu bod ganddi “ormod o ofn galw am gymorth” rhag i’r dynion ddod ar ei hôl hi.

Mae’r tri diffynnydd yn derbyn eu bod nhw yn y parc ar adeg yr ymosodiad, ac maen nhw wedi pledio’n euog i ddynladdiad a lladrata, yn ogystal ag ymosod ar Louis Williams, oedd yn dyst i’r digwyddiad.

Fydd Edwards na Strickland ddim yn rhoi tystiolaeth, ac mae’r achos yn parhau.