Os mai bwriad Llywodraeth Cymru drwy ddiwygio’r diwrnod ysgol yw cynnig gofal plant cenedlaethol, yna dylen nhw ddweud hynny, yn ôl NAHT Cymru, yr undeb arweinwyr ysgolion.
Mae cynllun peilot i gynnal sesiynau ychwanegol mewn ysgolion bellach ar waith yng Nghymru.
Bydd dros 1,800 o ddisgyblion yn cymryd rhan yn y cynllun, a bydd pum awr o weithgarwch ychwanegol yn cael eu cynnal yn yr ysgolion sy’n rhan o’r cynllun peilot am ddeng wythnos.
Mae’r cynllun yn dilyn ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibilrwydd o ddiwygio’r diwrnod ysgol, a bydd yn canolbwyntio ar gefnogi disgyblion difreintiedig ac ysgolion sydd wedi cael eu heffeithio’n sylweddol yn ystod y pandemig.
Fodd bynnag, mae Laura Doel, cyfarwyddwr NAHT Cymru, wedi codi pryderon fod yr holl ffocws wedi bod ar gael y diwrnod ysgol i gyd-fynd â bywyd teuluol a phatrymau gweithio, yn hytrach na’r buddion i ddysgwyr.
Dydy’r undeb heb dderbyn unrhyw dystiolaeth eto yn dweud bod ymestyn y diwrnod ysgol yn cynnig buddion i addysg plant, meddai.
Gofal plant cenedlaethol?
“Efallai bod yna rai buddion i addysg i’w cael drwy ddiwygio’r flwyddyn ysgol ac rydyn ni’n agored i drafod beth allai’r buddion hynny fod,” meddai Laura Doel.
“Mae ffocws y llywodraeth i gyd wedi bod ar gael y diwrnod ysgol i gyd-fynd â bywyd teuluol a phatrymau gweithio, heb ddim sôn am y buddion i addysg dysgwyr.
“Mae’r holl dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu bod yna ychydig neu ddim data’n cefnogi cadw dysgwyr mewn ysgolion am hirach oherwydd dydy cyfnodau hirach yn yr ysgol ddim yn cynyddu capasiti plentyn i ddysgu.
“Os mai cynllun y llywodraeth yw cefnogi teuluoedd sy’n gweithio gyda chynnig am ofal plant cenedlaethol, yna dylen nhw ddweud hynny.
“Dydy ysgolion ddim yn ddarparwyr gofal plant ac ni ddylid disgwyl i arweinwyr, athrawon a staff cefnogi ymrwymedig ein hysgolion orfod derbyn gwaith a chyfrifoldeb ychwanegol i wneud hyn.
“Rydyn ni’n annog y llywodraeth i fod yn onest ac eglur gyda’r proffesiwn ynghylch yr ysgogiad tu ôl i ddiwygio’r diwrnod ysgol.
“Os yw’n ymwneud â gofal plant, yna maen nhw angen cyfeirio’r drafodaeth honno gyda’r rhai sy’n gweithio yn y maes hwnnw a gadael i arweinwyr ysgolion ganolbwyntio ar eu prif waith o addysgu a dysgu.”
“Dim disgwyl i staff weithio oriau hirach”
Dywedodd Rebecca Williams, is-Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, ei bod hi’n bwysig edrych ar drefn y diwrnod a’r tymor ysgol “o bryd i’w gilydd”.
“Dyw’r diwrnod ysgol na’r flwyddyn ysgol wedi newid ers amser maith tra bod ein bywydau ni i gyd wedi newid cryn dipyn yn y cyfnod,” meddai Rebecca Williams wrth golwg360.
“Mewn egwyddor, rydyn ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig i edrych ar y peth i weld beth yw’r potensial am newid.
“Dw i ddim yn credu bod unrhyw beth o’i le ar gael y drafodaeth nawr, ac mewn ffordd mae Covid yn un peth sydd wedi dangos i ni fod yna ffyrdd gwahanol o wneud pethau ac mae hwnna mewn ffordd yn bwydo mewn i’r drafodaeth.”
Mae’r heriau sy’n cael eu hachosi gan Covid, megis absenoldebau staff a disgyblion yn gwneud cynnal unrhyw fath o arbrawf yn “anoddach”, meddai Rebecca Williams, a gallai amharu ar y canfyddiadau gan nad yw’w cynllun peilot cael ei gynnal yn ystod “cyfnod arferol”.
“Mae cwestiwn tystiolaeth yn bwysig iawn, yn un peth, mae angen bod yn glir pam ydyn ni’n gwneud newidiadau, os ydyn ni’n gwneud newidiadau,” meddai.
“Fel undeb, rydyn ni’n agored i’r drafodaeth. Beth dydyn ni ddim am allu caniatáu yw gwaethygiad i amodau gwaith athrawon, os oes ymestyn i’r diwrnod ysgol – iawn, ond wedyn mae angen mwy o staff.
“Allwch chi ddim disgwyl i’r un un staff weithio oriau hirach. Mi fyddai angen buddsoddiad sylweddol i wneud i hyn weithio.”
Mae angen meddwl yntau oriau ychwanegol o addysg ffurfiol neu weithgareddau mwy ymarferol megis chwaraeon neu ddrama fyddai’n cael eu cynnal, a phwy yw’r bobol orau i gynnal y gweithgareddau hynny, meddai Rebecca Roberts.
Athrawon o’r 13 ysgol sy’n rhan o’r cynllun peilot sy’n penderfynu beth sy’n cael ei gyflwyno a sut, gan weithio gyda phartneriaid allanol neu addasu gweithgareddau sydd ganddyn nhw yn yr ysgolion yn barod.
‘Cyfoethogi ac ysgogi dysgwyr’
Dywed Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, “y gall pobol ifanc elwa ar y dull hwn o ran eu hyder a’u lles, yn enwedig dysgwyr difreintiedig,” ac yn gwybod hynny yn sgil gwaith ymchwil.
“Gall rhaglenni sy’n darparu sesiynau ychwanegol sy’n cyfoethogi ac yn ysgogi dysgwyr i ailymgysylltu â dysgu gael mwy o effaith ar gyrhaeddiad na’r rhai sy’n academaidd eu ffocws yn unig,” meddai.
“Mae’r cynllun treialu’n gyfle gwych i gasglu ragor o dystiolaeth ar sut rydym yn defnyddio ac yn strwythuro amser yn yr ysgol a sut y gallai hynny esblygu yn y dyfodol.
“Byddwn yn dysgu sut y gallai’r sesiynau ychwanegol hyn wella lles a dilyniant academaidd a sicrhau mwy o gyfalaf cymdeithasol a diwylliannol.
“Wrth i ni symud ymlaen, byddwn yn parhau i gefnogi ysgolion drwy annog mwy fyth o ymgysylltu cymunedol fel ein bod yn cyflawni ein cenhadaeth i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol ac yn cyrraedd safonau uchel i bawb.”