Mae Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru a Gweinidog y Cyfansoddiad, wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddangos diffyg parch tuag at y llywodraethau datganoledig.
Daw hyn wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fwrw ymlaen â chynlluniau i ailwampio cyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd a gafodd eu dychwelyd atyn nhw ar ôl Brexit.
Yn ôl Downing Street, bydd Bil Rhyddid Brexit yn newid sut y gall y Senedd ddiwygio neu ddileu miloedd o reoliadau o gyfnod yr Undeb Ewropeaidd sy’n parhau mewn grym.
Dywed Boris Johnson y bydd y newidiadau yn “rhyddhau manteision Brexit” ac yn gwneud busnes Prydain yn fwy cystadleuol.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi nodi eu bod am symud oddi wrth reolau’r Undeb Ewropeaidd mewn meysydd fel diogelu data a threialon clinigol ar gyfer meddyginiaethau newydd.
Ond mae’r cynllun ei feirniadu gan y llywodraethau datganoledig fel ymosodiad pellach ar ddatganoli.
‘Parch’
Wrth siarad â golwg360, dywed Mick Antoniw ei fod yn “gofidio ynglŷn â beth allai goblygiadau’r cynlluniau hyn fod”.
“Yn amlwg, mae hi’n mynd i gymryd amser i ddadansoddi manylion yr hyn sy’n cael ei gynnig yn llawn – sef adolygiad o gyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd gafodd eu cadw ar ôl Brexit ac o bosib gwneud newidiadau iddyn nhw,” meddai.
“Mae hynny yn gysylltiedig â datganiad wnaeth yr Arglwydd Frost yn ôl ym mis Rhagfyr.
“Nawr, yr hyn y bydden ni wedi ei ddisgwyl yw y byddem yn cael bod yn rhan o’r drafodaeth wrth iddyn nhw baratoi i gyhoeddi’r ddogfen honno.
“Bydden ni wedi disgwyl gweld drafft a chael rhoi adborth i’r drafft hwnnw a bod buddiannau Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn y ddogfen honno yn ogystal ag eglurder ynglŷn â sut mae’r adolygiad hwn yn mynd i ddigwydd oherwydd mae ganddo oblygiadau difrifol i ardaloedd sy’n dod o dan gyfrifoldeb datganoledig.
“Mae’r rhain yn cynnwys safonau amgylcheddol, safonau bwyd, amaeth, pysgodfeydd ac yn y blaen.
“Yr hyn sy’n destun gofid, gwylltineb i ni hyd yn oed, yw’r ffordd y mae hyn wedi digwydd a’r ffordd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweithredu.
“Dyw hi ddim yn arwydd da bod materion sy’n ymwneud â pharch ac ymddiriaeth wedi cael eu diystyru mor gyflym yn y broses benodol hon.
“Dw i ddim yn meddwl fod y ffordd mae hyn wedi cael ei weithredu yn ddigon da o bell ffordd, ac rwy’n credu mod i’n bod yn hynod ddiplomataidd wrth ddweud hynny.”
‘Llanast llwyr’
Ydi Mick Antoniw yn credu bod dymuniadau’r llywodraethau datganoledig, yn ogystal â materion o barch yn flaenoriaeth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, felly?
“Yr hyn fyddwn i’n ei ddweud yw ei bod hi’n edrych fel ein bod ni’n edrych ar lywodraeth sydd mewn parlys i bob pwrpas,” meddai.
“Mae hi’n llanast llwyr yno, ac mae’r ffordd y mae’r llywodraeth yn gweithredu yn ddi-hid ac ar chwâl yn San Steffan oherwydd bod y ffocws i gyd ar adroddiad Sue Gray a gan fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud popeth o fewn eu gallu i newid yr agenda.
“Gallai hynny olygu nad yw materion sydd mor bwysig â hyn yn cael eu trin yn gywir, gan barchu’r berthynas a ddylai fodoli rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig.”