Mae gwefan sy’n rhoi cymorth i bobol ddysgu Cymraeg wedi denu 100,000 o ymweliadau ers cael ei sefydlu ychydig fisoedd yn ôl.

Cafodd gwefan hir-iaith, sy’n cynnwys teclyn Hi-lite ac ap ynganu geiriau i helpu dysgwyr, ei sefydlu gan Dr Rodolfo Piskorski, sy’n dysgu Portwgaeg yn Ysgol Ieithoedd Tramor Prifysgol Caerdydd.

Cafodd fersiwn Cymraeg o gêm Wordle, Gairglo, ei hychwanegu at y wefan yn ddiweddar ac mae’n dweud bod hynny wedi cyfrannu at ei phoblogrwydd.

I ddathlu cyrraedd 100,000 o ymweliadau, mae hir-iaith wedi ychwanegu teclyn newydd, sy’n ganlyniad cydweithio â Chorpws Cenedlaethol Cymru.

“Maen nhw wedi darparu technoleg i ni sy’n gallu deall brawddegau, pan maen nhw’n eiriau a allai olygu mwy nag un peth, fel ‘yn’, mae’n deall y frawddeg, yn deall y cyd-destun, ac mae’n dewis yr opsiwn cywir i chi pan rydych chi’n darllen,” esbonia wrth golwg360.

“Gyda phob gair annelwig, bydd yn dewis y gair cywir i chi felly rydyn ni’n hapus iawn, ac yn ddiolchgar iawn ein bod ni wedi gweithio gyda nhw a’u bod nhw wedi caniatáu i ni gynnwys y teclyn hwn.”

“Ffydd” yn y wefan

Roedd cyrraedd 100,000 o ymweliadau yn “wych”, meddai Dr Rodolfo Piskorski, gan ychwanegu ei fod yn falch iawn o’r wefan.

“Rydyn ni wedi cael lot o adborth gan ddefnyddwyr ar lawr gwlad yn ystod pob cam o’r broses, rydyn ni wedi cael lot o bobol i’w brofi a gwneud awgrymiadau felly dyna pam mae e wedi bod yn newid dipyn.

“Mae’r gêm Gairglo wedi cyfrannu lot, oherwydd fe gaethom ni lawer o sylw, roedd llawer o bobol yn chwarae felly mae hynny wedi hybu faint o ymweliadau rydyn ni wedi eu cael i’r wefan.

“Roeddwn i wedi gobeithio, ac roedd gen i lot o ffydd y byddai pobol yn hoffi’r wefan yn yr ystyr fy mod i’n gwybod eu bod nhw’n deulu da o offer i ddysgwyr, ond wrth gwrs doedd yna ddim ffordd o wybod pa mor boblogaidd a llwyddiannus y byddai yn y pen draw.”

Mae Dr Rodolfo Piskorski yn teimlo bod yna waith i’w wneud o hyd at y wefan, ac mae’n awyddus i ddenu pobol i ddefnyddio a phrofi’r wefan er mwyn cael mwy o adborth a gweld sut mae’r wefan yn helpu pobol.

“Mae rhai o’r teclynnau ar gyfer astudio mwy o ddifrif, ac mae gen i ffydd ei fod yn declyn da, ond mae e’n gofyn am fwy o ymrwymiad gan ddefnyddwyr.

“Dyna rydyn ni eisiau ei wneud nawr, cysylltu â phobol sydd eisiau defnyddio a phrofi fel bod pobol yn gallu gweld y teclynnau a’r galluoedd ac fel eu bod nhw’n gallu helpu ni i weld be mae’n bosib ei wneud a sut mae’n gallu helpu pobol.”

Gairglo

Gairglo: cymhwyso iaith i ddatrys cliwiau

Steve Morris

Gall corpws ddweud wrthym pa mor gyffredin neu anghyffredin yw gair, ac felly pa mor debygol yw e o godi yn y gêm, yn ôl Steve Morris

Gairglo: technoleg iaith yn “hanfodol” i’r Miliwn o Siaradwyr

Alun Rhys Chivers

Mae Dr Rodolfo Piskorski yn teimlo bod gwerth addysgiadol i’r fersiwn Gymraeg o Wordle

Technoleg newydd i roi cymorth i ddysgu Cymraeg

Dr Rodolfo Piskorski, sy’n dysgu Portiwgaleg ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd wedi datblygu’r dechnoleg

Mab Brasil, dinesydd Cymru

Portread o Rodolfo Piskorski