Roedd erthygl ym mhapur newydd y Times yn ddiweddar yn sôn am ‘The 27 easiest ways to lift your mood‘. Rhif 17 yn eu rhestr oedd ‘Be a winner at Wordle‘, tystiolaeth nid yn unig o boblogrwydd y gêm ond hefyd o sut mae ei chwarae bob dydd yn gallu cael effaith gadarnhaol ar godi ysbryd rhywun. A diolch i Dr Rodolfo Piskorski o Brifysgol Caerdydd, mae gyda ni erbyn hyn fersiwn Gymraeg o’r gêm – Gairglo (bathiad hyfryd o’r enw Wordle i’r Gymraeg!).
Rwyf i, fel llawer o bobol eraill, wedi mwynhau treulio pum munud neu fwy yn ceisio dyfalu gair y dydd ac mae nifer o’r rhai sy’n llwyddo yn mynd ar y cyfryngau cymdeithasol (Twitter yn bennaf) i frolio am eu llwyddiant gydag eraill.
Rhaid cytuno â Rodolfo hefyd fod defnyddio strategaeth yn rhan bwysig o’r gêm, ac mae defnyddio strategaeth yn rhan bwysig o ddysgu geirfa newydd yn gyffredinol. Yn ein llyfr ‘Welsh Words‘, un o brif awgrymiadau’r Athro Paul Meara (arbenigwr byd-eang ar ddysgu geirfa) yw gosod targed dyddiol i’n hunain i ddysgu hyn o hyn o eiriau newydd. Mae ‘Gairglo’ yn ffordd ddifyr a strategol o weithio at y targed yna.
Mae Rodolfo yn nodi fod lle i gemau fel hyn gyfrannu at yr ymdrechion i greu miliwn o siaradwyr – o ddefnyddwyr – o’r Gymraeg – a bod ‘…cael corpws a thechnoleg iaith yn hollbwysig.’ Gall corpws roi gwybodaeth i ni am ba mor aml mae geiriau yn cael eu defnyddio mewn iaith ac, wrth gwrs, o wybod hynny, mae modd rhagweld pa eiriau sy’n debygol o fod yn fwy cyfarwydd i ddefnyddwyr iaith benodol a pha eiriau sy’n debygol o fod yn fwy anghyfarwydd iddyn nhw.
Er enghraifft, rwyf newydd gwblhau Gairglo heddiw [20 Ionawr 2022] ac (ar ôl chwe chynnig!) llwyddais i ddod o hyd i air y dydd sef ‘cosbi‘. O edrych yn Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC – https://corcencc.cymru), corpws o dros 11 miliwn o eiriau Cymraeg gafodd ei gyhoeddi yn 2020, mae modd gweld nad yw ‘cosbi‘ yn air sy’n digwydd yn aml iawn yn y Gymraeg (mae 126 cofnod o’r gair). Diddorol gweld hefyd fod CorCenCC yn dangos ei fod yn cyd-ddigwydd yn aml gyda’r gair ‘cwrt >> cwrt cosbi‘.
O safbwynt pa mor aml byddai rhywun yn clywed neu’n gweld y gair, felly, mae CorCenCC yn rhoi tystiolaeth i ni y gall ‘cosbi‘ fod yn eitha heriol (o’i gymharu â berfenwau fel dweud, newid neu torri, er enghraifft, sydd yn y 1,000 uchaf o ran amlder) – ond dyna sy’n dda am gemau fel ‘Gairglo’! Ry’n ni’n hoffi her a gorau oll os ydyn ni’n gallu dysgu rhywbeth hefyd wrth wneud hynny: dyna pam mae gemau o’r fath yn codi ysbryd rhywun!!
O ran dysgwyr y Gymraeg hefyd, mae ‘Gairglo’ yn adnodd defnyddiol tu hwnt. Gall rhywun weld bod potensial trwy gydweithio gyda CorcenCC a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg i greu fersiynau wedi’u seilio ar yr eirfa graidd sy’n gysylltiedig â’r pum lefel ddysgu genedlaethol. Yn ogystal â hynny, rwy’n siŵr fod nifer o fyfyrwyr ysgol (a phrifysgol) yn dilyn ‘Wordle’ yn ffyddlon ac mae’n wych fod ‘Gairglo’ ar gael iddyn nhw erbyn hyn i allu gwneud hynny yn y Gymraeg hefyd.
Obrigado Rodolfo e parabéns! Edrych ymlaen at weld beth sy’n dod nesa’.
Mae Steve Morris yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu sy’n rhan o Gyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe.