Mae modd canfod mwy am obeithion pobol gyffredin drwy astudio arferion caru Cymreig, yn ôl Uwch Guradur Bywyd Diwylliannol Sain Ffagan.
Ar Ddiwrnod Santes Dwynwen (dydd Mawrth, Ionawr 25), bydd Fflur Morse yn rhoi sgwrs am roddion cariadus y Cymry.
Bydd ei sgwrs yn trafod rhai o’r rhoddion poblogaidd, fel llwyau caru, a rhoddion mwy anghyffredin, fel cyrn gwartheg, a oedd yn cael eu rhoi fel symbolau o gariad.
I ddathlu nawddsant cariad a chyfeillgarwch Cymru, mae’n bosib i bobol roi cynnig ar greu eu llwy garu rithiol eu hunain ar wefan Amgueddfa Cymru er mwyn ei hanfon dros e-bost at rywun arbennig.
‘Adlewyrchu gobeithion’
Roedd y llwy garu’n rywbeth y byddai rhywun yn ei rhoi i’w cariad ar ddechrau perthynas, yn ôl Fflur Morse.
“Does yna ddim tystiolaeth gadarn, does dim byd wedi cael ei ysgrifennu o’r cyfnod roedd llwyau caru’n cael eu gwneud, ond rydyn ni’n gallu o’r symbolau a’r pethau sydd wedi cael eu cerfio yn y llwy garu… fyswn i’n dweud bod yna awgrym cryf eu bod nhw wedi cael eu creu i roi i rywun roedden nhw’n eu canlyn, neu rywun oedd wedi cymryd eu bryd,” meddai wrth golwg360.
“Fysa fo ddim yn rhywbeth fysech chi’n ei roi i rywun rydych chi’n barod i’w priodi.
“Ar lot o’r llwyau caru, efallai bydd gyda chi flwyddyn wedi cerfio arno fe, neu lythrennau cyntaf y ddau enw, a symbolau hefyd.
“Mae lot o’r symbolau’n dangos gobeithion y cwpwl.”
Rhywbeth sy’n weddol gyffredin ar y llwyau caru yw peli wedi cael eu cerfio mewn cawell, meddai.
“Dwed bod yna bedwar o beli yn y cawell, roedd hynna’n golygu bod y cwpwl yn gobeithio, ar ôl priodi, y bydden nhw’n cael pedwar o blant.
“Gyd ydyn ni’n gallu ei wneud yw ychydig o waith ditectif, a guesswork, o’r symbolau, ond rydych chi yn dueddol o weld yr un symbolau ac maen nhw’n adlewyrchu gobeithion y cwpwl.”
Oes aur y llwy garu
Mae haneswyr yn gwybod fod yr arfer o roi llwy garu wedi bod yng Nghymru o’r ail ganrif a’r bymtheg, gan fod y llwy garu hynaf maen nhw’n ymwybodol ohoni yn dyddio’n ôl i 1667.
Mae’r llwy honno yn perthyn i gasgliad o dros 200 o lwyau sydd yng nghasgliad Sain Ffagan.
“Dw i’n siŵr bod yr arferiad wedi bod o gwmpas am hyd yn oed hirach, ond dyna’r un sydd wedi goresgyn,” meddai Fflur Morse.
“Yr amser ble’r oedd llwyau caru fwyaf poblogaidd yng Nghymru, fyswn i’n ei ddweud, oedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
“Roedd cannoedd yn cael eu gwneud. Dyna pryd oedd yr oes aur.”
Er bod llwyau caru, a’r arfer o roi rhoddion cariadus, yn gyffredin dros Ewrop, daeth y llwyau yn “boblogaidd tu hwnt” yng Nghymru, meddai Fflur Morse.
“Fel lot o bethau, dydyn ni methu dweud yn sicr ei fod e’n rhywbeth cynhenid Cymreig, roedd llwyau caru’n cael eu cerfio mewn llefydd gwahanol yn Ewrop.
“Er ar y cychwyn y bysa fe wedi bod yn rhywbeth oedd yn cael ei wneud ar draws Ewrop, yng Nghymru ddaeth yr arferion fwyaf poblogaidd a ffasiynol.”
Rhoddion anghyffredin
Bydd sgwrs Fflur Morse yn trafod rhoddion cariadus mwy anghyffredin sydd yn rhan o gasgliad Sain Ffagan hefyd, megis prennau staes a gweiniau gweill.
Y rhodd fwyaf anghyffredin yn y casgliad yw corn buwch wedi’i cherfio, sy’n dyddio i 1758.
“Hwnna yw’r unig beth o’i fath sydd yn ein casgliad ni, a dw i ddim wedi gweld dim byd tebyg yng nghasgliad unrhyw le arall,” meddai Fflur Morse.
“Be’ sy’n ddiddorol yw bod y gwrthrychau yma wedi cael eu creu gan bobol gyffredin, pobol dlawd nid pobol gyfoethog, a fysan nhw’n defnyddio pa bynnag ddefnydd roedden nhw’n gallu cael gafael arno.”
Bydd Fflur Morse hefyd yn edrych ar gardiau Sant Ffolant yn ystod y sgwrs.
“Mae gennym gasgliad mawr o gardiau yn Sain Ffagan, ac mae’n amlwg ei bod yn ŵyl boblogaidd yng Nghymru yn ystod 19eg ganrif,” meddai.
- Bydd y sgwrs yn cael ei chynnal fel gweminar byw dros Zoom am 6yh, ddydd Mawrth, Ionawr 25, ac mae modd prynu tocyn ar wefan Amgueddfa Cymru.