Mae gwefan newydd wedi cael ei lansio er mwyn dathlu treftadaeth lechi’r gogledd-orllewin, sydd wedi derbyn statws nodedig yn ddiweddar.

Chwe mis yn ôl, cafodd ardaloedd y llechi eu dynodi yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO – y pedwerydd lleoliad yng Nghymru i ennill y statws hwnnw, a’r ail yng Ngwynedd.

Bydd y statws yn cydnabod a gwarchod etifeddiaeth a hanes yr ardal, sy’n cynnwys Bethesda, Llanberis a Blaenau Ffestiniog, gan gynnig cyfleoedd economaidd ehangach ar yr un pryd.

I gydnabod y cyflawniad hwnnw, mae gwefan newydd Llechi Cymru wedi ei datblygu gan wasanaeth twristiaeth ac adran dechnoleg gwybodaeth Cyngor Gwynedd, gyda diolch i nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Drwy sawl cyfrwng megis fideos, mapiau ac ati, bydd y wefan yn cynnig cyfle i bobol ddysgu am yr ardal, yn ogystal â rhoi cyfle i drigolion rannu eu profiadau nhw o bob agwedd ar fyd y llechi.

‘Lot mwy i lechi na thoeon tai’

“Mae yna lot mwy i lechi na thoeon tai, ac rydan ni’n awyddus i weld y wefan yn gyfle i gysylltu gyda phobl yr ardal er mwyn rhoi cyfle iddynt rannu eu straeon a’u profiadau,” meddai Gareth Thomas, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd, wrth drafod y prosiect.

“Ar y wefan newydd, mae’r dudalen ‘Pobl y Llechi’ yn ein cyflwyno i unigolion sy’n gweithio neu wedi eu hysbrydoli gan bob agwedd ar y diwydiant neu’r dirwedd.

“Rydym yn annog cyfraniadau gan bobol leol sydd â chysylltiad llechi i rannu eu storïau gyda ni fel lleisiau lleol i’w cynnwys ar ein gwefan trwy gysylltu ar llechi@gwynedd.llyw.cymru.”

Yr holl ardaloedd llechi

‘Testun balchder’

Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn cynnwys chwe ardal allweddol sy’n ymestyn o Borth Penrhyn ger Bangor i Chwarel Bryneglwys yn Abergynolwyn ger Tywyn.

Dywedodd y cyn-Aelod Seneddol Dafydd Wigley fod ardaloedd y llechi, a derbyn y statws gan UNESCO, yn “destun balchder mawr” i gymunedau’r gogledd-orllewin.

“Yma yng Ngwynedd, mae gennym ni enghraifft ragorol o dirwedd gyflawn sy’n arddangos pob elfen o ddiwydiant – yn weladwy ac yn ddarllenadwy,” meddai pan gafodd y cais ei gymeradwyo ym mis Gorffennaf.

“Rydym yn barod i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd treftadaeth y byd, nid yn unig yn lleol ond ymhellach i ffwrdd.

“Mae’r arysgrif hwn yn cydnabod ein harwyddocâd byd-eang trwy allforio cynnyrch, pobol, gwerthoedd a thechnoleg pobol.”

Am ragor o wybodaeth am y statws, gallwch ymweld â’r wefan newydd, www.llechi.cymru.