Mae angen trin ymosodiadau yn erbyn gweinidog gyda’r Annibynwyr o’r Tymbl fel troseddau casineb, ac yn “fwy difrifol” na dim ond gweithredoedd gwrthgymdeithasol, meddai cadeirydd yr ofalaeth.

Dros y misoedd diwethaf, mae criw o lanciau wedi bod yn taflu wyau a gwrthrychau eraill at gartref y Parchedig Emyr Gwyn Evans.

Yn ôl Alun Lenny, Cadeirydd Gofalaeth Bröydd Myrddin, mae’r llanciau wedi gweiddi “Bible Basher” ar y Parchedig Emyr Gwyn Evans sawl gwaith am ei fod yn weinidog, ac mae eitemau eraill megis baw ci, caniau cwrw a siocled wedi cael eu taflu at ei garterf.

Mae pryder ymysg aelodau’r ofalaeth ei fod e wedi cael ei dargedu gan ei fod yn weinidog, ac yn ôl Alun Lenny, dylai’r heddlu ymchwilio i’r digwyddiadau fel troseddau casineb.

“Mae e wedi digwydd sawl gwaith yn ystod y misoedd diwethaf yma, ers Halloween,” meddai wrth golwg360.

“Mae yna lanciau, roedd Emyr Gwyn yn tybio bod yr hynaf tua 17 oed a bod y llanc yna yn denu plant iau gyda fe.

“Maen nhw wedi gweiddi ‘Bible Basher’ arno fe mwy nag unwaith, achos bod e’n weinidog.

“Os edrychwch chi ar y Ddeddf, mae’n dweud bod unrhyw drosedd sy’n digwydd ar sail rhywioldeb, hil neu grefydd yn gyfystyr â throsedd casineb.”

Mae’r Ddeddf Casineb yn nodi bod troseddau casineb yn cyfeirio at ddigwyddiadau gelyniaethus yr ydych chi’n credu sydd wedi cael eu cymell gan anabledd, hil, crefydd, rhywioldeb, neu hunaniaeth drawsryweddol.

“Roeddwn i’n teimlo y dylai’r heddlu gymryd y peth yn fwy difrifol na jyst gweithred gwrthgymdeithasol,” meddai.

“Dylen nhw, am y rhesymau dw i wedi sôn amdanyn nhw eisoes, ac o dan y Ddeddf, eu trin nhw fel digwyddiadau o droseddau casineb.”

‘Sioc a dicter’

Cafodd y digwyddiadau eu trafod mewn cyfarfod o swyddogion yr ofalaeth neithiwr (nos Fercher, Chwefror 2), meddai Alun Lenny, ac fe wnaeth yr aelodau fynegi sioc a dicter am y modd y mae’r Parchedig Emyr Gwyn Evans wedi cael ei dargedu.

“Roedden nhw’n arswydo o weld beth oedd wedi digwydd, roedd pobol yn teimlo’n eithaf dig, wrth gwrs, bod ein gweinidog ni’n cael ei dargedu yn y modd hollol ffiaidd, mochaidd yma,” meddai wedyn.

“Mae’n gwneud mess ofnadwy ar ei gartref.

“Fe wnaeth Pwyllgor Gofalaeth Bröydd Myrddin, sydd â dros 300 o aelodau mewn chwe chapel Annibynnol, fynegi cefnogaeth gadarn iddo.

“Roedd consyrn mawr bod hi’n ymddangos bod y Parchedig Evans yn cael ei dargedu am ei fod yn weinidog yr efengyl.

“Os felly, roedd yr aelodau o’r farn fod yr ymosodiadau yn y categori ‘troseddau casineb’ ac y dylai’r heddlu ymchwilio iddynt fel y cyfryw.”

“Blaenoriaeth”

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a digwyddiadau’n gysylltiedig â chasineb yn flaenoriaeth iddyn nhw.

“Mae pryderon wedi’u codi gyda Heddlu Dyfed-Powys ynghylch yr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal,” meddai llefarydd ar ran y llu.

“Mae’r Tîm Plismona’r Gymdogaeth lleol wedi bod mewn cysylltiad â’r dioddefwr ac aelodau eraill o’r gymuned, ac mae ymholiadau wedi eu gwneud mewn siopau, lleoliadau trwyddedig, y Cyngor, a chyda phobol sydd gan CCTVs yn yr ardal er mwyn trio dod o hyd i’r troseddwyr a delio â nhw’n briodol.

“Hyd yn hyn, mae dau lanc wedi cael eu hadnabod ac wedi cael eu cyfeirio at Raglen Dargyfeirio.”

Mae’r heddlu’n apelio ar rieni i fod yn ymwybodol o’r hyn mae eu plant yn ei wneud, a lle maen nhw.

“Mewn ymateb i ddigwyddiadau bydd y Tîm Plismona’r Gymdogaeth yn parhau i fod â phresenoldeb amlwg yn yr ardal yn y gobaith o gynnig sicrwydd pellach i’r gymuned,” ychwanegodd Heddlu Dyfed-Powys.

“Mae’r Tîm Plismona’r Gymdogaeth hefyd yn gweithio’n agos â phartneriaid i adnabod pryderon a gweithredu ble bo’r angen.”