Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario mwy na £200,000 ar hysbysebion TikTok yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Gwarion nhw £135,110.95 yn 2020-21, a £102,216.86 rhwng Ebrill y llynedd a Ionawr eleni.

Daeth y ffigwr i’r amlwg yn dilyn cwestiwn gan Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn y Senedd a chafodd y ffigurau eu cyhoeddi ar dudalen newyddion y wefan asgell dde, Guido Fawkes.

Yn y cyfnod 2017-20, doedd dim gwariant o gwbl ar TikTok.

Gofynnodd un hysbyseb ar Tiktok i bobol arafu lledaeniad Omicron, ac “amharu ar drosglwyddo” Covid 19.

Safle cyfryngau cymdeithasol sy’n dangos clipiau fideo byr i ddefnyddwyr yw TikTok, ac mae ganddyn nhw 689m o ddefnyddwyr y mis ledled y byd.

Yn wreiddiol, roedd modd uwchlwytho fideos byr o hyd at 15 eiliad, ond yn ddiweddar, mae wedi dechrau treialu fideos o hyd at dri munud.

“Mae TikTok yn sianel bwysig i gyfleu cyngor hanfodol ar iechyd y cyhoedd i gynulleidfa iau yn ystod y pandemig, ochr yn ochr â hysbysebu ar sianeli cyfryngau digidol a thraddodiadol eraill,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Fis Medi y llynedd, roedd pobol ledled y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau’n treulio mwy o amser ar TikTok na YouTube.