Mae Cymru wedi cyrraedd ei nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg 28 mlynedd yn gynnar, yn ôl y Telegraph.

Cafodd yr honiad ei wneud mewn darn yn trafod achos sydd wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar o dŷ yn Sir Gaerfyrddin sydd â’r enw ‘Hakuna Matata’.

Banc Cornicyll oedd enw gwreiddiol y safle.

Yn ddiweddarach, mae’r Arolwg Ordans wedi dechrau cofnodi’r enw newydd ar eu mapiau.

Cefndir

Mae’n debyg fod yr achos yn mynd yn ôl i 1997, pan wnaeth perchennog presennol tir Banc Cornicyll ger Gorslas brynu ac adeiladu tŷ newydd yno a rhoi’r enw anarferol arno.

Mae llawer o ymgyrchwyr wedi mynegi eu dicter gydag achosion o’r fath, gyda phryderon y gallai hanes a threftadaeth sy’n bwysig i’r Gymraeg gael eu colli.

Ond ni ddylai’r iaith Swahili boeni ymgyrchwyr yng Nghymru, yn ôl y Telegraph, a hynny oherwydd bod “gan y Gymraeg filiwn” o siaradwyr eisoes.

“Mae llawer yn gwybod yr ymadrodd hakuna matata. Mae’n golygu “dim pryderon” (am weddill eich dyddiau), yn ôl cân Elton John a Tim Rice yn y ffilm animeiddiedig The Lion King,” meddai’r darn.

“Ond mae’n poeni rhai cenedlaetholwyr Cymreig, achos mae dynes o Sir Gaerfyrddin wedi ei defnyddio fel enw ei thŷ.

“Roedd yr ardal yn arfer cael ei hadnabod yn Gymraeg fel Banc Cornicyll, nad yw bellach ar fap yr Arolwg Ordnans.

“Mae angen deddfwriaeth arnom i ddiogelu enwau lleoedd Cymru,” datganodd un ymgyrchydd iaith.

“Ond a all cyfreithiau warantu’r cof? Nid yw’n fater o bwysau democrataidd rhifau.

“Swahili yw Hakuna matata, iaith gyda 200 miliwn o siaradwyr; Mae gan y Gymraeg filiwn. Ond nid yw Swahili erioed wedi cael ei weld fel bygythiad i’r Iaith Gymraeg, a byddai’n wirion gadael iddo ddechrau cael ei weld fel un nawr.”

‘Heb ei ail’

“Diolch am y sylw golygyddol gwych hwn o’ch ystafell newyddion yn Llundain – mae eich dealltwriaeth o’r sefyllfa yma, fel bob amser, heb ei ail,” meddai’r cyflwynydd radio Aled Hughes wrth ymateb ar Twitter.

‘Colli traddodiad’

Yn ôl y perchennog, cafodd y tŷ ei adeiladu ar safle’r fferm chwarter canrif yn ôl, ac fe gafodd yr enw Hakuna Matata bryd hynny.

“Yn amlwg pe baen ni’n gwybod bod enw hanesyddol yma, dwi’n gweld dim rheswm i fod yn sathru ar unrhyw fathau o draddodiadau, a bydden ni wedi aros gyda’r enw yna,” meddai Sarah Davies wrth raglen Newyddion S4C.

“Mae fy nheulu, teulu fy ngŵr i gyd yn siarad Cymraeg.

“Fydden ni ddim wedi bod eisiau colli’r traddodiad hwnnw.

“Ond ni chafodd erioed ei ddangos ar unrhyw un o’r mapiau nac unrhyw beth a brynwyd gennym.”

Cynllun arloesol Cymdeithas yr Iaith i atal enwau eiddo rhag cael eu newid

Gwern ab Arwel

Mae achos wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar o dŷ’n cael yr enw ‘Hakuna Matata’ – rhywbeth na fyddai’n cael digwydd yn un o gyfamodau Diogelwn