Mae Plaid Cymru yn galw am weithredu uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â stelcian.

Mewn dadl dan arweiniad Sioned Williams, Aelod o’r Senedd dros y Blaid, dywedodd fod yn rhaid cymryd camau “nid yn unig am yr effaith enfawr mae’n ei gael ar oroeswyr, ond am y bygythiad mae’n ei achosi i fywyd”.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw am “ddatblygu ac ehangu” eu strategaeth i gryfhau diogelwch menywod.

Cafodd mesur Plaid Cymru ei basio, gyda 40 o blaid ac 14 yn erbyn, heb fod neb wedi ymatal.

Mae’r mesur yn galw am ddarparu cymorth arbenigol i ddioddefwyr, gwella’r ffordd mae’r heddlu’n ymdrin â stelcian, a rhoi mesurau ar waith i helpu i gyfyngu ac atal stelcian.

Yn y Deyrnas Unedig, bydd un ym mhob pump o fenywod ac un ym mhob deg dyn yn dioddef stelcian yn ystod eu hoes, ac mae elusennau’n dweud nad yw digwyddiadau’n cael eu cymryd o ddifri.

Problem ehangach

Yn ôl Sioned Williams, llefarydd y blaid ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, mae stelcian yn “symptom” o “fater diwylliannol ehangach mewn cymdeithas o drais, aflonyddu a cham-drin”.

Wrth siarad ar lawr y Siambr, dywedodd fod trais yn “rhy gyffredin” yn erbyn menywod a merched, ond mae’n nodi bod pobol hefyd yn debygol o fod yn dargedau stelcian oherwydd hil, rhywioldeb a salwch neu anabledd.

“Mae trais yn erbyn menywod a merched yn mynd yn llawer rhy gyffredin, gydag aflonyddu, cam-drin a thrais yn brofiad dyddiol i lawer sy’n cael eu targedu ar sail eu rhyw, hil, anabledd neu rywioldeb,” meddai.

“Pan fydd dioddefwyr yn sôn am deimlo fel ’targed hawdd’ ar drugaredd stelcwyr ar-lein, a gormod yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma, mae’n amlwg bod angen i ni wella dull yr heddlu o ymdrin ag achosion o stelcian, ac ailystyried y gefnogaeth a gynigir i ddioddefwyr yma yng Nghymru.

“Dylai Llywodraeth Cymru hefyd ddarparu canllawiau i sicrhau bod dyluniad mannau cyhoeddus yn ystyried diogelwch y rhai sydd fwyaf tebygol o ddioddef stelcian.

“Mae gennym gyfle hefyd drwy’r cwricwlwm newydd i feithrin diwylliant sy’n atal pobl rhag stelcian yn y lle cyntaf.

“Gydag elusennau dioddefwyr stelcio yn adrodd am gynnydd mewn stelcian gan gynbartneriaid, mae’n amlwg nad yw addysgu perthnasoedd iach a pharchus erioed wedi bod yn bwysicach.”

‘Adeiladu byd lle nad oes arnom angen y gwylnosau’

Wrth ymateb i’r ddadl, cyfeiriodd Jane Hutt, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, at Sara Robinson, colofnydd y Western Mail, yn dilyn gwylnos yng Nghaerdydd i gofio’r Wyddeles Ashling Murphy.

Cafodd yr athrawes ysgol gynradd ei llofruddio yn Iwerddon wrth gerdded ar hyd y Grand Canal yn Tullamore.

“Yn dilyn yr wylnos, crynhodd Sara Robinson hyn mor berffaith yn ei cholofn yn y Western Mail, gan ein hannog i gyd i adeiladu byd lle nad oes arnom angen y gwylnosau hyn’,” meddai.

Mae’r Llywodraeth yn bwriadu “cryfhau ac ehangu” eu strategaeth i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod.

“Felly, dyna pam rydyn ni am ddatblygu ac ehangu ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i gynnwys y ffocws hwnnw ar drais ac aflonyddu yn erbyn menywod,” meddai.

“A hynny mewn man cyhoeddus yn ogystal ag yn y cartref gan sicrhau bod y strategaeth yn cael ei datblygu ochr yn ochr â phartneriaid allweddol sy’n cynnwys comisiynwyr yr heddlu, ac wrth gwrs y sector arbenigol sydd wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd a blynyddoedd.

“Yn enwedig y rhai sy’n darparu cymorth lloches ar gyfer cam-drin domestig a chanolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol, ac wrth gwrs maent yn darparu cymorth mor anhygoel, amhrisiadwy i ddioddefwyr a goroeswyr stelcian yn ogystal â mathau eraill o drais.”