Mae Cyngor Sir Powys wedi penderfynu bwrw ati i gau ysgol gynradd mewn ardal wledig, er gwaetha’r gwrthwynebiad chwyrn ar lawr gwlad.

Cafodd Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yn Llanbedr ger Crughywel ei hagor bron i 300 mlynedd yn ôl, yn 1728, ond mae niferoedd isel o ddisgyblion yn ogystal â chostau rhedeg yr ysgol wedi codi pryderon ymhlith cynghorwyr.

Fe bleidleisiodd y cabinet – sy’n glymblaid rhwng y Ceidwadwyr ac aelodau Annibynnol – o blaid cau’r ysgol yn ystod eu cyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 8).

Daw’r penderfyniad fel rhan o strategaeth y Cyngor ar gyfer trawsnewid addysg ym Mhowys rhwng 2020 a 2030 – strategaeth sydd eisoes wedi gweld cynlluniau i gau ysgolion gwledig eraill yn y sir.

Yn ôl y disgwyl, fe fydd yr ysgol yn cau ei drysau ym mis Awst eleni, gan arbed £39,000 yng nghyllideb y Cyngor.

Yn yr ymgynghoriad cyhoeddus diweddar, fe wnaeth 349 o bobol ddangos gwrthwynebiad i’r cynlluniau i gau’r ysgol yng Nghwm Grwyne.

‘Ysgol lwyddiannus, uchel ei chyflawniad’

Rhai o’r rhesymau oedd yn cael eu rhestru o blaid cau’r ysgol oedd niferoedd disgyblion isel, arbed arian i’r Cyngor, ac i wella profiad dysgu disgyblion mewn ysgolion ag adnoddau gwell.

Roedd y Cynghorydd John Morris, sy’n cynrychioli ardal Llanbedr yn ward Crughywel, yn cwestiynu hynny.

“Mae hwn yn ddiwrnod hollbwysig i Gyngor Sir Powys, a hefyd i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu,” meddai.

“Yr argymhelliad yw cau ysgol lwyddiannus, uchel ei chyflawniad, hapus a llawn.

“Mae hyn yn seiliedig ar adroddiad sy’n defnyddio tystiolaeth sydd wedi dyddio a thybiaeth sydd heb ei phrofi.

“[Y dybiaeth hon yw] y bydd ei disgyblion ar eu hennill yn rhywle arall er gwaetha’r ffaith y byddan nhw’n cael eu gwahanu oddi wrth eu ffrindiau a’u brodyr a chwiorydd i fynychu ysgolion hyd at 15 milltir i ffwrdd.”

Cyfeiriodd at ysgolion yn ward yr aelod cabinet ar gyfer cyllid, y Cynghorydd Aled Davies.

“Mae’r cyngor am gadw ysgolion ar agor mewn mannau eraill sy’n llawer llai, efo mwy o lefydd gweigion, a chost fesul disgybl o hyd at £11,000.

“Dywedodd y deilydd portffolio addysg (Y Cynghorydd Phyl Davies) mewn datganiad i’r wasg a gafodd ei anfon cyn rhyddhau papurau’r agenda, yn amlygu mai cau’r ysgol sydd er lles gorau’r dysgwr.

“Rwy’n anghytuno’n gryf â hynny. Does dim dadl resymegol i gau’r trysor yma o ysgol ym Mhowys.”

Ymateb y cabinet

Wrth ymateb, dywed y Cynghorydd Aled Davies fod “adroddiad am ysgolion yn fy ardal i ymhellach i lawr ar yr agenda”.

“Dydy e ddim fel petaen ni’n anwybyddu rhai ardaloedd, rydyn ni’n edrych ar ysgolion ledled Powys,” meddai.

Ychwanega’r Cynghorydd Phyl Davies y byddai’r ysgol “yn ei chael hi’n anodd darparu’r cwricwlwm newydd ar sail ei hadnoddau”.

Bydd y mwyafrif o ddisgyblion Llanbedr (61%) yn symud i’r ysgol gynradd agosaf yng Nghrughywel o fis Medi 2022.

Mae’r ysgol honno yn sylweddol fwy ei maint ac yn dal bron i 200 o ddisgyblion eleni.