Mae data newydd yn dangos bod pobol ddu yng Nghymru yn cael eu stopio a’u chwilio gan yr heddlu yn llawer amlach na phobol wyn.
Yn ôl ystadegau Canolfan Llywodraethiant Cymru, cafodd cyfradd o 56 o bob 1,000 o bobol ddu sy’n byw yng Nghymru eu stopio a’u chwilio yn 2020/21.
Cafodd 16 ymhob 1,000 o bobol Asiaidd eu stopio a’u chwilio yn yr un cyfnod, a 28 o bob 1,000 o bobol sy’n nodi eu bod nhw’n dod o gefndir ethnig cymysg.
Roedd hynny’n cymharu ag wyth ym mhob 1,000 o bobol wyn yng Nghymru.
Roedd y gwahaniaeth yn y gyfradd stopio a chwilio rhwng pobol wyn a du ychydig yn ehangach yng Nghymru yn 2020 (8 i 56) nag yn Lloegr (7 i 51).
Mae’r canfyddiadau yn atgyfnerthu ymchwil blaenorol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a dangosodd lefelau uchel o anghymesuredd hiliol o ran carcharu, arestio a dedfrydau o garchar.
O ganlyniad i’r ymchwil, mae’r Ganolfan wedi galw ar Senedd Cymru i gynnal ymchwiliad i wahaniaethu ar sail hil yn y system cyfiawnder troseddol.
‘Ychwanegu at y dystiolaeth’
Dr Robert Jones o Ganolfan Lywodraethiant Cymru gafodd afael ar y data, ac mae’n dweud bod y data diweddaraf yn “ychwanegu at y dystiolaeth rydym eisoes wedi’i datgelu bod pobol nad ydynt yn wyn yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru”.
“Mae hyn yn cynnwys tystiolaeth bod unigolion o gefndiroedd nad ydynt yn wyn yn fwy tebygol o gael eu stopio a’u chwilio gan yr heddlu, eu dedfrydu i garchar a chael cyfnodau hirach yn y carchar, o’u cymharu â phobol wyn yng Nghymru,” meddai Dr Robert Jones.
“Yn y gorffennol, rydym wedi defnyddio ein hymchwil i alw ar un o bwyllgorau’r Senedd i gynnal ymchwiliad i anghyfiawnder hiliol yn system cyfiawnder troseddol Cymru.
“Mae’r data diweddaraf hwn yn tanlinellu ymhellach yr angen am ymchwiliad o’r fath ac i Lywodraeth Cymru roi llawer mwy o sylw i wahaniaethu ar sail hil a chyfiawnder troseddol yng Nghymru.”
Cenedl noddfa?
Fe wnaeth Rhys ab Owen, Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru dros Blaid Cymru, gyflwyno’r ystadegau i Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn y Senedd heddiw (Mawrth 8).
“Ers degawdau rydyn ni’n gwybod am y rhagfarnau sy’n wynebu pobol o leiafrifoedd ethnig o fewn y system gyfiawnder dros y byd,” meddai Rhys ab Owen.
“Rhywbeth nad oedden ni’n gwybod amdano tan yn ddiweddar yw ei bod hi’n ymddangos bod rhagfarn hiliol yn waeth o fewn system gyfiawnder Cymru na Lloegr.
“Dw i’n falch bod Cymru’n cael ei galw’n genedl noddfa, ond a all hi wirioneddol gael ei galw’n genedl noddfa os yw pobol yn y boblogaeth ddu yn llawer mwy tebygol o gael eu llusgo mewn i’r system gyfiawnder na phobol wyn?
“A wnaiff y Prif Weinidogion sefydlu ymchwiliad i ddadansoddi hyd a lle rhagfarn hiliol o fewn y system gyfiawnder, fel ein bod ni’n deall pam bod hyn yn digwydd a mynd i’r afael â hyn yn llawn?”
Datganoli cyfiawnder a heddlu
Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn llongyfarch gwaith Canolfan Llywodraethiant Cymru a’r mewnwelediadau maen nhw’n eu cynnig.
“Mae’r ystadegau o ran stopio a chwilio yn amlwg yn peri pryder, ond maen nhw’n ychwanegol at waith sydd wedi’i wneud gan y Ganolfan yn barod,” meddai Mark Drakeford.
“Mae’n ffigwr syfrdanol, a dw i’n siŵr y bydd yn sioc i bobol dros yr holl Siambr fod ymchwil yn dangos, tra bod 14 o bobol wyn yng Nghymru yn y carchar i bob 100,000 o’r boblogaeth, mae 91 o bobol ddu yn y carchar.
“Dyna pam, drwy gydweithio â’n dwy blaid [Plaid Cymru a Llafur] bod gennym ni ymrwymiad penodol i sicrhau bod elfennau cyfiawnder yn y cynllun gweithredu er cydraddoldeb hiliol yn gryf, ac yn mynd i’r afael â’r materion hyn o fewn yr heddlu a’r llysoedd, a dyna pam ein bod ni’n bwriadu gweithredu ar y ffyrdd ymarferol y gallwn ni gydnabod yr ystadegau [hyn].
“Yr ateb yn y tymor hir, yn sicr, yw datganoli cyfiawnder a heddlu.
“A dw i’n credu bod hyn yn fater o pryd, nid os. Dylai, ac mi fydd, yn digwydd, oherwydd mae’r achos dros [ddatganoli] mor amlwg ac yn cael ei atgyfnerthu gan y wybodaeth gan Rhys ab Owen.”