Mae Mark Drakeford yn amau bod ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r argyfwng ffoaduriaid wedi “niweidio” ei henw da ledled y byd.
Yn ystod cyfarfod llawn Senedd Cymru heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 8), roedd y Prif Weinidog yn ateb cwestiwn gan Adam Price yn nodi pryderon am yr ymateb hyd yn hyn.
Fe gyfeiriodd arweinydd Plaid Cymru at y ffaith fod Gweriniaeth Iwerddon wedi croesawu 1,800 o ffoaduriaid yn y bythefnos ddiwethaf, sy’n sylweddol uwch na gwledydd Prydain, a bod swyddogion y Llywodraeth yn gwrthod fisas i Wcreiniaid yn Calais gan nad yw’r ddogfennaeth gywir ganddyn nhw.
Mae’r Swyddfa Gartref wedi cael eu beirniadu’r wythnos hon am ddargyfeirio pobol i Paris neu Frwsel er mwyn caffael fisas er mwyn cael mynediad i’r Deyrnas Unedig.
Dywedon nhw’n ddiweddarach y byddan nhw’n agor canolfan yn Lille, bron i 60 milltir o Calais ar yr arfordir yng ngogledd Ffrainc.
‘Tri o bobol gyda bocs o KitKats a chreision’
Yn y Senedd, fe ofynnodd Adam Price a oedd hi’n bryd i Lywodraeth San Steffan “ddangos brys moesol” wrth ystyried mai dyma’r argyfwng ffoaduriaid mwyaf yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd.
“Mae hanesion am yr hyn sydd wedi digwydd yn Calais wedi niweidio enw da’r wlad hon ledled y byd,” meddai Mark Drakeford wrth ymateb.
“Pan ddywedodd yr Ysgrifennydd Cartref ei bod yn anfon ‘tîm brys’ i Calais i helpu pobol, mae’n debyg mai’r oll oedd hynny oedd tri o bobol gyda bocs o KitKats a chreision.
“Sut gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig feddwl bod pobol yn yr amgylchiadau hynny yn mynd i allu gwneud eu ffordd ar draws cyfandir Ewrop i brifddinasoedd pellach fyth?
“Pe bydden nhw’n mynd i Frwsel, nid yn unig mae’n rhaid iddyn nhw gyrraedd yno, ond mae’n rhaid iddyn nhw gyrraedd yno ar y diwrnod cywir, oherwydd dim ond am hanner yr wythnos mae’r gwasanaeth perthnasol ar agor.
“Nid dyma beth mae pobol yn y wlad hon yn ei ddisgwyl o’u Llywodraeth o gwbl. Mae lefel yr haelioni sy’n cael ei ddangos yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig i bobol sydd bellach angen ein cymorth yn gwbl drawiadol.
“Maen nhw’n disgwyl i’w Llywodraeth ymateb yn yr un modd. Dydyn nhw ddim yn disgwyl i bobol sy’n byw yn y wlad hon yn barod, sy’n ddinasyddion Prydeinig eisoes, gael eu troi i ffwrdd yn Calais a chael gwybod nad oes ganddyn nhw’r darn cywir o bapur a’u bod nhw nawr yn gorfod gwneud eu ffordd i rywle arall.
“Rwy’n credu mai dyma’r adeg lle mae’n rhaid i weinidogion y Deyrnas Unedig droi’r pethau maen nhw’n eu dweud yn gamau gweithredu effeithiol sydd eu hangen i wneud yn siŵr y gall y bobol hynny sydd angen ein cymorth fod yn hyderus y byddan nhw’n ei gael.”