Bydd rali yng Nghaerdydd heno (nos Fawrth, Mawrth 8) er mwyn mynnu nad oes mwy o fenywod na phobol o ryweddau dan orthrwm yn cael eu lladd.

Yn ôl un o drefnwyr Ni Isio Byw, roedd Streic Ryngwladol y Merched a SistersUncut Caerdydd yn awyddus i adeiladu ar wreiddiau radical a chwyldroadol Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Mae’r rali yn gyfle i ddod ynghyd a chofio am bawb sydd wedi’u lladd yn sgil rhyfel a thrais y wladwriaeth, meddai un o aelodau SistersUncut Caerdydd a Streic Ryngwladol y Merched.

Yn ogystal, bydd y rali’n gyfle i dynnu sylw ar y Bil Heddlu a Throsedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n “targedu’r menywod mwyaf bregus”.

‘Radical a chwyldroadol’

“Roedden ni eisiau dod â Dydd Rhyngwladol y Menywod yn ôl i’r gwreiddiau radical a chwyldroadol, i adeiladu ar yr hanes yna ond i greu cysylltiadau a meddwl am y math o drais y mae pobol sy’n hunanddiffinio fel menyw, pobol anneuaidd, amlrywedd, neu cwiar yn dal i brofi’n ddyddiol, ac yn mynd i’w brofi o dan system y wladwriaeth a chyfalafiaeth,” meddai un o’r trefnwyr, sydd ddim am gael ei henwi, wrth golwg360.

“Rydyn ni eisiau tynnu sylw at y Mesur Heddlu a Throsedd, mae’n wir ei fod yn defnyddio iaith o ‘ddiogelu menywod’ ond wedyn yn targedu’r rhai ohonom ni sydd fwyaf bregus fel mewnfudwyr, menywod traws, gweithwyr rhyw, menywod Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac yn enwedig cymunedau gypsy, roma, a theithwyr.

“Rydyn ni eisiau dod at ein gilydd i acknowledge-io bod dim un profiad gan fenywod, ond bod llawer o brofiadau dyddiol gwahanol gan fenywod – mae dim un universal category of women, ond rydyn ni’n gallu rhannu defiance a dicter yn erbyn patriarchaeth a thrais rydyn ni’n gwybod yr ydyn ni, ac yn enwedig grwpiau penodol yn ein cymuned, yn wynebu.

“Rydyn ni hefyd eisiau gwneud cysylltiadau rhwng y rhyfel yn Wcráin ar y foment, oherwydd rydyn ni’n cael ein hatgoffa drwy’r rhyfel yna mai rhyfel yw’r adlewyrchiad mwyaf amlwg o drais yn erbyn ein cyrff ac ein cynefinoedd a chymunedau.

“Rydyn ni eisiau cynnig cysylltiadau rhwng y trais mae pobol yn ei wynebu pob dydd, a sut mae hwnna’n cael ei amplifyio gan bobol anneuaidd neu sy’n diffinio fel menywod yn ystod y rhyfel.

“Ni fyddwn ni’n ddistaw yn wynebu trais yn ei holl ffurfiau.”

‘Di-drais’ ymhob ystyr

Mae Mabli Siriol, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, ymysg y siaradwyr.

“Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad di-drais ers ein sefydlu 60 mlynedd yn ôl, ac rydyn ni’n golygu ‘di-drais’ yn ystyr ehangaf y gair,” meddai Mabli Siriol wrth golwg360.

“Mae’n cyfeirio at ein dulliau gweithredu a’r ffyrdd rydyn ni’n trin ein gilydd.

“Ond mae hefyd am ddychmygu, dyheu a gweithio tuag at fyd heb drais, byd heb ryfel nac arfau niwclear, byd heb orthrwm o bob math, byd lle mae pawb, a phob merch, yn rhydd rhag trais a gormes — ar ein strydoedd ac yn ein cartrefi.

“Dyna pam rydyn ni’n falch o gefnogi’r rali heno a drefnwyd gan Sisters Uncut Caerdydd a’r Streic Rhyngwladol y Merched, sy’n galw am ddiwedd ar drais yn erbyn merched yma, yn Wcráin, Yemen, Palestina, ac o amgylch y byd.”

‘Dim rhagor o heddlu’

Bydd y Bil Heddlu a Throsedd yn rhoi rhagor o rym i’r heddlu, yn gwneud protestio’n anghyfreithlon ac yn erlyn lleiafrifoedd, meddai Mabli Siriol, gan ddweud nad rhoi rhagor o rym i’r heddlu sydd ei angen.

Mabli Siriol

“Rydyn ni’n unedig gyda mudiadau eraill yn dweud na i’r Bil hwn a rhoi rhagor o rym yn nwylo’r heddlu a’r Llywodraeth i gwtogi ar ein hawliau sylfaenol,” meddai Mabli Siriol.

“Rhaid i ni gofio, blwyddyn yn ôl cafodd Sarah Everard ei llofruddio gan heddwas a ddefnyddiodd ei rym swyddogol i’w lladd hi.

“Ac ers hynny, rydyn ni wedi gweld yr heddlu yn camdrin y rhai oedd yn galaru amdani, a Llywodraeth Prydain yn defnyddio ei llofruddiaeth erchyll hi i gyfiawnhau’r Bil.

“Nid rhagor o rym i’r heddlu, creu troseddau newydd neu ddatganiadau gwag am gefnogi ‘cydraddoldeb’ fydd yn rhoi diwedd ar drais yn erbyn merched – ond yn hytrach buddsoddi mewn gwasanaethau trais domestig a thrais rhywiol yn lle eu torri, sicrhau bod gan bawb y gallu i gefnogi eu hun a newid blaenoriaethau ein cymdeithas o un sy’n buddsoddi mewn arfau, i un sy’n buddsoddi mewn gofal.”

‘Uno yn erbyn ymosodiadau’

Mae’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau am wneud pethau “hyd yn oed yn waeth” i fenywod sy’n ffoaduriaid neu fudwyr, meddai Mabli Siriol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthwynebu’r Bil eisoes, gan ddweud ei fod yn mynd yn groes i weledigaeth Cymru fel cenedl noddfa.

“Dylai fod gan bawb yr hawl i geisio noddfa iddyn nhw a’u teulu, ond bydd Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn cau’r drws ar bobol sy’n ffoi rhag erledigaeth a rhyfel, fel y rhai yn Wcráin ac Affganistan.

“Mae merched sy’n ffoaduriaid neu fudwyr hefyd yn rhai o’r bobol fwyaf bregus yn ein cymdeithas, a bydd y Bil hwn yn gwneud pethau hyd yn oed yn waeth iddynt.

“Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched eleni, gadewch i ni uno yn erbyn ymosodiadau Llywodraeth Prydain ac eraill ar ein hawliau, a chydsefyll fel y mudiad ffeministaidd, y mudiad iaith a phawb arall sydd eisiau creu byd heb drais a gormes.”

Bydd y rali’n digwydd ger Cofeb Betty Campbell yng Nghaerdydd am 6yh, ac mae ralïau tebyg yn cael eu cynnal mewn dinasoedd dros y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Caeredin, Bryste a Lerpwl.

Protestio yn hawl “hollol sylfaenol mewn democratiaeth,” yn ôl Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith

Aelodau o’r heddlu a chyfreithwyr wedi rhybuddio fod y Bil newydd yn “fygythiad i ddemocratiaeth”