Mae gwasanaeth fasgwlaidd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cael ei ddynodi fel un sydd “angen gwelliant sylweddol.”

Fe gyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru heddiw (dydd Mercher, Mawrth 9) eu bod nhw wedi cyfarfod ar frys yn ddiweddar er mwyn trafod adolygiad o’r gwasanaeth.

Fe nododd yr adolygiad, a gafodd ei lunio gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, bryderon ynghylch gwaith y tîm amlddisgyblaethol, safon y dogfennau a chadw cofnodion, ac ansawdd y gofal clinigol.

Daeth y pwyllgor i’r casgliad fod y gwasanaeth hwnnw yn un sydd angen gwelliant sylweddol, oherwydd bod “nifer o bryderon sydd yn nodi perygl clir i’r cleifion”.

‘Pobol y rhanbarth wedi’u siomi’

Cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei roi dan fesurau arbennig yn 2015 yn dilyn pryderon ynghylch arweinyddiaeth, llywodraethu a chynnydd, a daeth y rheiny i ben yn llwyr erbyn Tachwedd 2020.

Roedd y penderfyniad hwnnw’n bennaf wedi’i wneud yn sgil Adroddiad Holden o 2013, a oedd yn cyfeirio at “ddiwylliant o fwlio” yn yr uned, ac yn nodi bod cyfathrebu rhwng rheolwyr a staff rheng flaen yn “ddifrifol wan”.

Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw (dydd Mercher, Mawrth 9), mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn pryderu bod penderfyniad i gymryd bwrdd iechyd y gogledd allan o fesurau arbennig y llynedd “wedi’i ysgogi gan wleidyddiaeth”.

“Mae gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru o dan y chwyddwydr unwaith eto am y rhesymau anghywir,” meddai Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer gogledd Cymru.

“Fe fydd pobol y rhanbarth wedi’u siomi gan arweinwyr y Gwasanaeth Iechyd, sy’n ymddangos yn gwbl analluog i wella’r gwasanaethau mae cleifion yn dibynnu arnyn nhw.

“Mae mynediad at wasanaethau fasgwlaidd diogel o ansawdd uchel yn hanfodol i bobol ar draws gogledd Cymru ac mae’n gwbl annerbyniol bod diogelwch cleifion a chanlyniadau wedi’u peryglu.

“Mae’r newyddion heddiw yn dangos yn glir bod y penderfyniad i dynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig wedi’i ysgogi gan wleidyddiaeth, a ddim yn seiliedig ar wneud y gwelliannau a gafodd eu haddo i bobol.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn ei chyfrifoldeb am y methiannau hyn a dwyn y rhai sy’n gyfrifol i gyfrif.”

Ymateb y Llywodraeth

“Mae’r Gweinidog Iechyd wedi bod yn glir bod angen i’r bwrdd iechyd fynd i’r afael â’r materion gwasanaeth hyn ar unwaith,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Ni ddylai diogelwch cleifion byth gael ei beryglu.

“Bydd yr ymyriad hwn yn cefnogi’r bwrdd iechyd i roi prosesau ar waith i gysylltu ac adolygu cleifion yn briodol ac yn sensitif, er mwyn rhoi gwybodaeth a sicrwydd iddynt yn ogystal â mynd i’r afael â’r argymhellion eraill a wnaed gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon.”