Mae’r cynlluniau wedi eu cyhoeddi ar gyfer datblygu menter iechyd a llesiant yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd.
Canolbwynt y cynlluniau gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin yw adeiladu canolfan “arloesol” gwerth £38m ym mhentref Penygroes, i wasanaethu cymunedau’r dyffryn a thu hwnt.
Byddai Canolfan Lleu yn cynnwys cartref preswyl 36 gwely, 17 fflatiau byw’n annibynnol, cyfleusterau meddygol a gofodau rhagweithiol i bob oedran.
Ar ben hynny, mae un o bartneriaid y cynllun, Theatr Bara Caws, yn bwriadu sefydlu eu hunain yn y ganolfan, ac mae gofod ymarfer, swyddfeydd, a theatr newydd yn rhan o’r cynlluniau hefyd.
Y gobaith yw “cryfhau cymunedau ar draws y dyffryn” a “chefnogi iechyd a llesiant”, gan lynu at egwyddorion cynaliadwy ac eco-gyfeillgar.
‘Carreg filltir bwysig’
Roedd Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin, yn falch bod y cynlluniau o’r diwedd yn cael gweld golau dydd.
“Mae cyhoeddi Dogfen Weledigaeth Canolfan Lleu yn garreg filltir bwysig yn y prosiect cyffrous ac arloesol hwn,” meddai.
“Mae’n ganlyniad blynyddoedd o ymgynghori agos â chymunedau Dyffryn Nantlle a’n partneriaid i wir ddeall anghenion a dyheadau’r cymunedau hynny, datblygu achos busnes cryf ac edrych ar sut y gall y cyfan ddod at ei gilydd.
“Rwy’n hynod falch o’r gwaith sydd eisoes wedi’i wneud ac rwy’n edrych ymlaen at y cam nesaf, sef datblygu’r manylion ymhellach a sicrhau’r cyllid angenrheidiol.
“Mae Canolfan Lleu yn addo gwthio ffiniau a thorri tir newydd o ran cydweithio, gan ysbrydoli cymunedau eraill yng Nghymru i wireddu prosiectau eraill o’r fath.”
‘Y peth mwyaf cyffrous i ddigwydd yn yr ardal ers blynyddoedd’
Mae’r cynlluniau wedi derbyn sêl bendith gan Gyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a fydd hefyd yn bartneriaid.
Y Cynghorydd Craig ap Iago yw aelod cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer tai, ac mae hefyd yn cynrychioli ward Llanllyfni yn lleol.
“Dwi wir yn credu mai dyma’r peth mwyaf cyffrous i ddigwydd yn yr ardal ers blynyddoedd,” meddai.
“O’i gael yn iawn, bydd yn mynd yn bell tuag at greu Bro Lleu sydd gynaliadwy yn gymdeithasol, economaidd ac yn amgylcheddol.”
Canolbwynt
Mae Wyn Thomas, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Cychwynnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn gweld pwysigrwydd darparu gwasanaethau iechyd mor lleol â phosib.
“Mae dod â gwasanaethau a gofal yn agosach at gartrefi pobol yn rhan ganolog o weledigaeth y Bwrdd Iechyd ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd yn y dyfodol,” meddai.
“Bydd y datblygiad ym Mhenygroes yn ganolbwynt ar gyfer gofal cychwynnol a gwasanaethau iechyd yn y gymuned yn yr ardal, yn ogystal â gwasanaethau gan ein partneriaid, i gyd o dan yr un to.”
Ychwanega Berwyn Morris-Jones o Theatr Bara Caws fod gan y celfyddydau “rôl bwysig” i’w chwarae wrth hyrwyddo a chynnal iechyd a lles.
“Mae swyddfeydd newydd i’r cwmni yn ogystal â theatr newydd i’r cyhoedd yn ffitio’n naturiol i’r weledigaeth ac mae’r manteision i ni fel cwmni a’n cwsmeriaid yn fawr,” meddai.
Mae Llywodraeth Cymru, yn ogystal â’r Aelod o’r Senedd lleol Siân Gwenllian, wedi croesawu’r cynlluniau yn Nyffryn Nantlle, ac mae’r llywodraeth wedi darparu cyllid drwy grant ar gyfer y cyfnod cynllunio.