Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi y bydd yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr o Wcráin sydd wedi ffoi o’u gwlad.

Bydd 20 o ysgoloriaethau yn caniatáu i fyfyrwyr o’r wlad ddilyn cyrsiau ôl-raddedig mewn Dinasyddiaeth Fyd-eang ac Arweinyddiaeth Gynaliadwy.

Mae gan y brifysgol bartneriaeth gydweithredol â Phrifysgol Alfred Novel yn Dnipro yn Wcráin, ac mae eu myfyrwyr a’u staff ym mlaen eu meddyliau, meddai.

Yn ôl Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae galluogi myfyrwyr sydd wedi eu dadleoli oherwydd y rhyfel i barhau â’u haddysg yn gam tuag at gynnig lloches.

Mae cymuned y brifysgol wedi mynegi ei thristwch a’i braw yn sgil yr ymosodiadau ar Wcráin, ac wedi condemnio’r rhyfel yno.

‘Arwain y ffordd’

Dywed yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ei bod hi’n bwysig i sefydliadau yn y Deyrnas Unedig ddangos eu cefnogaeth i Wcráin ar y funud.

“Mae Cymru, yn genedl noddfa, yn arwain y ffordd o ran croesawu pobol sydd mewn angen,” meddai.

“Mae ein pecyn ysgoloriaethau yn gam tuag at gefnogi myfyrwyr i barhau â’u hastudiaethau mewn amgylchedd diogel a chroesawgar”.

‘Cynnig gobaith’

“Drwy’r storm ddinistriol hon mae Cymru’n cynnig gobaith i helpu i hwyluso dyfodol cyffredin drwy gydymdrechu,” meddai Geraint Davies, Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Abertawe.

“Mae’r haelioni mawr hwn sy’n hyrwyddo Cymru yn genedl noddfa yn esiampl i’r Deyrnas Unedig a thu hwnt, y dylem groesawu’r rhai sy’n ffoi o’r bomiau i helpu i’w grymuso am well yfory”.

Ar hyn o bryd, mae’r Brifysgol yn cydweithio â’r awdurdodau i hwyluso’r broses o ganiatáu i fyfyrwyr o Wcráin geisio am yr ysgoloriaethau.

Bydd yr ysgoloriaethau yn cynnwys ffioedd dysgu, costau llety, a hyfforddiant iaith Saesneg ychwanegol yn ôl yr angen.

Mark Drakeford yn beirniadu ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r argyfwng ffoaduriaid

“Mae’n debyg mai’r oll oedd [cymorth tîm y Swyddfa Gartref] oedd tri o bobol gyda bocs o KitKats a chreision”