Mae Urdd Gobaith Cymru wedi derbyn canmoliaeth am ddarparu rhaglen “arloesol” i 113 o ffoaduriaid o Affganistan.

Bellach, mae’r mudiad yn trafod y math o gefnogaeth y gellir ei gynnig i ffoaduriaid o Wcráin.

Mewn llythyr ar yr Urdd, diolchodd y teuluoedd o Affganistan am eu gwaith diflino i wneud eu teuluoedd yn hapus, ac mae Prif Weinidog Cymru a Phrif Weithredwr Cytûn wedi canmol ymdrechion yr Urdd hefyd.

Ar ôl i’r Taliban gipio grym yn Affganistan fis Awst y llynedd, fe wnaeth y mudiad gynnig llety a chymorth yng Ngwersyll Caerdydd i 20 o deuluoedd, y rhan fwyaf yn blant a phobol ifanc.

Trefnodd yr Urdd weithgareddau dyddiol i’r plant, o wersi nofio i sesiynau chwaraeon a dawnsio, a grwpiau cymorth, gweithdai a gweithgareddau wythnosol ar gyfer yr oedolion, gan gynnwys gwersi iaith, gweithdai busnes, a gemau pêl-droed a chriced.

Yn ogystal â chynnig llety, bu’r Urdd, a rhwydwaith o bartneriaid a gwirfoddolwyr, yn allweddol wrth adsefydlu’r ffoaduriaid a chynllunio rhaglen o weithgareddau i’w cefnogi.

‘Gwaith diflino’

“Diolch am eich gwaith diflino i wneud ein teuluoedd yn hapus,” meddai’r teuluoedd o Affganistan yn eu llythyr o ddiolch i’r Urdd.

“Mae presenoldeb a chefnogaeth yr Urdd wastad wedi bod yn ffynhonnell o anogaeth a thawelwch meddwl i ni i gyd ac rydyn ni’n ei werthfawrogi’n fawr.

“Roeddech chi wrth ein hochr yn ein holl drafferthion ac roeddech chi yno gyda ni ym mhob eiliad o’n bywyd yma yng Nghymru.

“Diolch i’r Urdd am bopeth rydych chi wedi’i roi i ni ac am beidio â’n gadael ar ein pen ein hunain.”

‘Enghraifft wych’

Wrth ddiolch, dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru ei fod e am “ddiolch i’r Urdd am roi croeso cynnes Cymreig i’n ffrindiau o Afghanistan”.

“Rwy’n falch iawn ein bod ni yma yng Nghymru yn gallu helpu pan fod argyfwng rhyngwladol yn digwydd.

“Mae hon yn enghraifft wych o sut y gallwn ni roi cymorth a lloches i’r anghenus.”

‘Arloesol’

Drwy’r dull ‘Tîm Cymru’, roedd yr Urdd yn cydweithio’n agos â phartneriaid fel Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol, Tai Tâf, Cytûn, a mudiadau cymorth i ffoaduriaid.

Dywed y Canon Aled Edwards, Prif Weithredwr Cytûn, fod y “ffordd wnaeth yr Urdd ymateb i’r alwad i gartrefu teuluoedd o ffoaduriaid o Afghanistan yn sgil cwymp Kabul ym mis Awst 2021 yn gwbl arloesol”

“Gan fynd y tu hwnt i’r angen i gynnig llety a gwasanaethau craidd i deuluoedd bregus, creodd y mudiad gymuned gynnes a chroesawgar sy’n gwbl unigryw yn hanes derbyn teuluoedd sydd wedi’u dadleoli,” meddai.

‘Parhau i estyn llaw’

Pum mis oedd hyd y prosiect ac yn ôl yr Urdd, mae’n brawf o sut gall y “ffordd Gymreig” o gefnogi ffoaduriaid gyflawni canlyniadau gwell na’r model traddodiadol.

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’n partneriaid a’n gwirfoddolwyr am ei gwneud yn bosibl i ni agor ein drysau i deuluoedd a oedd yn chwilio am loches a diogelwch,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Mae’r pum mis diwethaf wedi bod yn brofiad gwylaidd i ni gyd, ac yn brofiad na fyddwn byth yn ei anghofio.

“Bu rôl ein staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid yn allweddol wrth estyn parch, cefnogaeth a chyfeillgarwch i’r ffoaduriaid o Affganistan.

“Roedd yn hollbwysig ein bod yn rhoi croeso Cymreig twymgalon iddyn nhw, yn cynnig cefnogaeth, a’u helpu i setlo i’w bywydau newydd ar ôl wynebu cyfnod mor drasig ac erchyll yn eu bywydau.

“Yn ogystal â chynnig llety iddyn nhw, fe wnaethom eu cyflwyno i Gymru, ein diwylliant a’n hiaith.

“Mae Cymru yn Genedl Noddfa, a byddwn yn parhau i estyn llaw o gyfeillgarwch i bob teulu wrth iddyn nhw ddechrau pennod nesaf eu bywydau yma yng Nghymru.

“Mae cymorth dyngarol a helpu eraill wedi bod wrth wraidd gwerthoedd yr Urdd ers ei sefydlu yn 1922.

“Mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod ein haelodau yn deall ac yn dysgu pwysigrwydd helpu’r rheini mewn angen.

“Rydym wedi cychwyn trafod y math o gefnogaeth gallwn gynnig i ffoaduriaid o’r Wcráin a byddwn yn gallu rhannu mwy o wybodaeth am ein cynlluniau yn fuan.”